Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr
Rydym yn fudiad ieuenctid sy’n darparu cyfleoedd i 800 o aelodau rhwng 10 a 28 oed sy’n byw yn Sir Gâr.
Rydym yn falch bod holl gweithgareddau a chystadleuathau nol yn llaw erbyn nawr. Dyma gipolwg o’r gweithgareddau sydd wedi bod ymlaen ers Mis Ebrill 2022.
■ Clybiau
Ar hyn o bryd 20 Clwb sydd gyda ni fel Mudiad, gyda pob un nol yn cwrdd yn wythnosol. Braf yw gweld cynifer o aelodau yn cystadlu yn cystadleuathau’r Sir ac hefyd ar lefel CFFI Cymru ac ar lefel Cenedlaethol.
■ Staff
Hoffwn llongyfarch Hana Thomas ar gael ei phenodi fel Trefnydd y Sir dechrau mis Mehefin. Hoffwn dymuno pob dymuniad da iddi yn ei swydd newydd.
Diolch yn fawr i Cerys Thomas sydd wedi bod o gymorth enfawr i Hana yn Swyddfa’r Sir ers diwedd Mis Ebrill ac sydd yn parhau i fod.
■ Gweithgareddau
Cyfweliadau Llysgenhadon y Sir Noson llwyddiannus iawn ar y 13eg o Ebrill 2022 yn Swyddfa CFFI Sir Gâr gyda 7 aelod yn ceisio am y teitl. Diolch yn fawr i awn i’m beirniaid sef Delun Evans, Elliw Dafydd a Dylan Bowen. Llongyfarchaidau i’r 6 a fu’n Llysgenhadon ar y mudiad ar gyfer y flwyddyn 2022-23.
■ Llysgenhades: Mared Evans, CFFI Penybont
■ Llysgennad: Ioan Harries, CFFI Llannon
■ Dirprwyon: Betsan Jones a Cathrin Jones, CFFI Llanllwni; Rosie Davies, CFFI Llannon a Jasmine Emerick, CFFI Llangadog.
Dawns Dewis Llysgenhadon y
Sir Noson llawn sbort a sbri yn Clwb Rygbi y Cwins, Caerfyrddin ar y 15fed o Ebrill 2022. Hyfryd oedd gweld y lle yn orlawn gyda holl aelodau’r mudiad. Diolch yn fawr i Clwb Rygbi y Cwins am adael i ni ddefnyddio’r ystafell, Diolch i’r ddau security a fu ar y drws trwy gydol y nos. Diolch i swyddogion y Sir am gymryd yr arian wrth y drws ac hyefyd diolch yn fawr i DJ Bry am gadw’r hwyl i fynd trwy gydol y noson gyda’i ddewis o gerddoriaeth.