Eisteddfod Tregaron 2022
Gan fod yr Eisteddfod wedi cyrraedd Ceredigion (o’r diwedd), roedd yn fraint cael ymuno â’r Orsedd ar ôl 2 flynedd o aros.
Roedd yn brofiad bythgofiadwy gan fy mod wedi astudio’r Gymraeg a Cherddoriaeth yn y brifysgol ac wedi cael fy nerbyn i’r Orsedd ar sail gradd. Mae’r Orsedd yn rhan bwysig o hanes a thraddodiad Cymru a’r Eisteddfod, felly pleser oedd cael gwisgo’r wisg werdd gan fy mod wedi mwynhau’r Eisteddfod ers yn blentyn.
Roedd yn uchafbwynt cael fy urddo yn y seremoni ar Faes yr Eisteddfod, ac hefyd i fod ar y llwyfan yn ystod Seremoni’r Coroni a gweld y bwrlwm o’r llwyfan ei hunan.
Hyfryd hefyd oedd cael rhannu’r profiad yma gyda fy nghydweithwr, Nia ap Tegwyn ac hefyd gyda fy mam oedd yn y wisg Las. Rwy’n edrych ymlaen i fod yn rhan o’r Orsedd am yr Eisteddfodau sydd i ddod yn y dyfodol!
Bu amryw o staff eraill y Fenter yn brysur yn ystod wythnos yr Eisteddfod hefyd. Roedd Heledd a Meinir wedi cael modd i fyw wrth berfformio yng nghôr yr Eisteddfod yn y Gyngerdd Agoriadol, Lloergan. Bu’r ddwy yn brysur yn mynychu ymarferion i’r sioe ers 2019 felly braf oedd gallu llwyfannu’r sioe wedi hir aros.
Stori wedi ei lleoli yn 2050 oedd Lloergan yn dilyn hynt a helynt Lleuwen, wrth iddi ddychwelyd o’i swydd yn y gofod at ei theulu. Ysgrifennwyd y sioe gan Fflur Dafydd a cyfansoddwyd y caneuon gan Griff Lynch a Lewys Wyn a’r trefniant gan Rhys Taylor.
Roedd hi’n hyfryd gweld actorion lleol yn cael cyfle i actio yn y sioe honno hefyd. Darlledwyd y sioe ar S4C ac mae dal cyfle i chi wylio’r sioe arallfydol, hudolus yma ar S4C/ Clic.
Bu hefyd llu o ddigwyddiadau ar stondin Mentrau Iaith Cymru yn yr Eisteddfod, gobeithio y cawsoch gyfle i alw heibio’r stondin i ddweud ‘helo’.