Cyflwynwyd gwobr cariad i fyfyrwraig gofal plant
YN DDIWEDDAR, cyflwynwyd gwobr Cariad y coleg i Siwan James, dysgwraig Gofal Plant Lefel 2, ar ôl i’w Mentor Lles, Kelli Cawfield, gyflwyno enwebiad.
Meddai Kelli:”mae Siwan yn cael trafferth gyda hunanhyder ac ar adegau mae ganddi hunan-barch isel hefyd. Cyn mynychu Coleg Sir Gâr, roedd yn ei chael yn anodd mynychu’r ysgol gyfun oherwydd y materion hyn.
“Trwy gydol pandemig Covid a hyd heddiw, mae Siwan wedi bod yn wirfoddolwr gyda Menter Gorllewin Sir Gâr ac mae wedi helpu i redeg gr p drama ar-lein ac wyneb yn wyneb hefyd. I ddechrau, roedd Siwan yn nerfus tu hwnt ond aeth i’r afael â’r her ac mae wedi helpu i gefnogi pobl ifanc ledled y sir.
“Tra’n gwneud hyn, mae Siwan yn dal i fynychu lleoliad dyddiol ac mae hefyd wedi cwblhau cyrsiau er mwyn ehangu ei sgiliau yn y sector Addysg. Mae hi hefyd yn eiriolwr dros y Gymraeg i Goleg Sir Gâr. Ni ellir diystyru dewrder a phenderfyniad Siwan ac mae ei hyder wedi cynyddu’n aruthrol o ganlyniad.
“Mae’r cynnydd yn ei hyder hefyd wedi arwain ati’n bod yn rhan o’r panel dysgwyr y cyfarfu Estyn ag ef eleni. Bellach mae’n debygol y bydd Siwan yn symud ymlaen i ofal plant lefel tri ym mis Medi ar sail ran-amser tra’n gweithio yn ei lleoliad ysgol fel prentis.”
Cyflwynodd Jamie Davies (Rheolwr Lles) ei gwobr i Siwan ac yn y llun uchod (o’r chwith i’r dde) mae Kelli Cawfield, Mentor Lles, Sarah Howells, Tiwtor y Cwrs Gofal Plant, Siwan, a Tom Snelgrove, Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr a Lles. Llongyfarchiadau Siwan, rwyt ti’n Gariad go iawn arall!