Coleg yn ennill Gwobr Hyfforddiant am yr eildro
MAE Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ennill Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol 2022 drwy eu hymagwedd arloesol at ddysgu proffesiynol a sefydlu ‘diwylliant o chwilfrydedd’.
Dyma’r eildro i’r coleg ennill Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol gan iddo hefyd dderbyn y wobr yn 2019 am ei strategaeth addysgu, dysgu a datblygu staff sector arweiniol.
Mae Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, yn gwobrwyo rhaglenni trwy broses ymgeisio heriol sy’n cydnabod sefydliadau sydd wedi cyrraedd safon uchel o ragoriaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol y profwyd ei bod wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu busnes a’u staff.
Mae’r coleg wedi ymrwymo i ysbrydoli chwilfrydedd pawb sy’n gweithio ac yn dysgu yn ei gymuned.
Mae’n cynorthwyo staff i fod yn arloesol, yn greadigol ac i herio eu hunain i ddysgu er mwyn ysbrydoli dysgwyr i wneud yr un peth.
Meddai Bryony Evett-hackfort, cyfarwyddwr addysgu a dysgu: “Roeddem yn gwybod bod angen i’n staff arwain trwy esiampl, er mwyn bod yn enghraifft i’n dysgwyr o bwer chwilfrydedd.
“Ein her oedd datblygu ffordd o roi’r rhyddid i’r ymarferwyr wneud hyn ac ar yr un pryd rhoi hyder i’r sefydliad mewn proses effeithiol o safon.”
Ym mlwyddyn academaidd 20192020, lansiodd y coleg ei ‘ddiwylliant o chwilfrydedd’ a’r Rhaglen Ymchwil Weithredu i roi rhwydwaith diogel a chynorthwyol i staff er mwyn ymgysylltu ag ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer.
Y nod yw creu diwylliant agored a thryloyw lle mae ymarferwyr yn teimlo’n ddiogel i archwilio ac arbrofi o fewn fframwaith feithrinol sy’n canolbwyntio ar sgiliau.
Amcanion y coleg oedd darparu rhaglen gynhwysol i’r holl staff beth bynnag eu profiad ymchwil, lefel addysgu a maes pwnc, i rymuso staff, gan eu hannog i gydnabod eu potensial eu hunain, i herio rhagdybiaethau a datblygu ffydd yn eu llais a’u harbenigedd. A hefyd, i rannu eu hymarfer yn fewnol ac ar lwyfan rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae staff yn cyflwyno cynigion prosiect a darperir adborth adeiladol gan banel sy’n cynorthwyo datblygiad y prosiect o’r cychwyn cyntaf. Mae creadigrwydd yn cael ei feithrin a gall staff fynd â’u prosiect i’r cyfeiriad y maent yn teimlo sy’n berthnasol i’w hymarfer; gallant benderfynu ar y ffocws, y fethodoleg a natur y canlyniadau.
Trwy gefnogaeth un i un, mae gan y staff berchnogaeth dros sut y bydd y prosiect yn datblygu ac yn addasu wrth gaffael dysgu newydd.
Mae nodweddion arbennig y rhaglen yn cynnwys; rhaglenni siaradwyr gwadd, gweithdai techneg, cefnogaeth un i un, grwpiau adolygu cymheiriaid, Gwyl Ymarfer flynyddol a gwefan a chymorth i rannu a chyhoeddi gwaith.
Daw hyn i gyd i ben gyda Gwyl Ymarfer flynyddol a chaiff gwefan ei chreu sy’n rhoi llwyfan i bob ymarferydd rannu ei feddyliau a’i gynnydd.
Mae sesiynau’r wyl yn cael eu llywio gan weithdai a gall staff ar draws y sefydliad ddewis sesiynau yr hoffent eu mynychu yn seiliedig ar eu chwilfrydedd eu hunain. Mae’r sesiynau’n rhyngweithiol ac yn annog y rheiny sy’n mynychu i ystyried sut y gellir ymgorffori’r syniadau a archwiliwyd yn eu meysydd ymarfer eu hunain.
Meddai Andrew Cornish, pennaeth
Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Wedi’i yrru gan ymarferwyr ac wedi’i gymeradwyo gan uwch dîm arweinyddiaeth y coleg, rwyf wrth fy modd bod ein coleg yn parhau i arloesi a ffynnu mewn diwylliant o chwilfrydedd.
“I fod y gorau yn yr hyn a wnawn, rhaid i ni barhau i fod ar flaen y gad o ran ymarfer.
“Mae’r cyfle i ddathlu a rhannu llwyddiant drwy Wyliau Ymarfer yn hanfodol bwysig i’n staff ac rwy’n awyddus i weld sut mae’r coleg yn croesawu newidiadau mewn addysgu, dysgu a thechnoleg, i ddiwallu anghenion a heriau dysgwyr y dyfodol.”
Ychwanegodd Bryony Evett Hackfort, cyfarwyddwr addysgu a dysgu yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion:
“Rydym wedi bod yn awyddus i annog staff i fod yn chwilfrydig, yn greadigol ac yn arloesol ac i herio eu hunain ac ysbrydoli dysgwyr i wneud yr un peth.”
Mae Coleg Sir Gâr yn un o 47 sydd wedi derbyn y wobr ar draws y DU ac fe’i dyfernir am ymrwymiad i hyfforddiant a’r effaith gadarnhaol o ddatblygu staff.