Carmarthen Journal

Clwb Rhwyfo Crannog

-

FY enw i yw Cerys ac rwy’n rhan o Glwb Rhwyfo Crannog, yn Llangranno­g. Dwi ‘di bod yn rhwyfo ers tua pum mlyne’ ac mae e ‘di newid fy mywyd.

Fel rhan o’r clwb ry’n ni’n cael llawer o brofiadau gwahanol, fel gwirfoddol­i i glwb ‘dirtbikes’ Dyfed i’r Ironman yn Nimbych y Pysgod. Fel clwb rydym yn cael gwahoddiad i rwyfo yn yr Eidal yn flynyddol. Ond y flwyddyn yma cawson ni wahoddiad i fynd i bentre’ bach o’r enw Verbania yng ngogledd yr Eidal i rwyfo ar y Llyn Maggiore.

Y peth gorau am y gwahoddiad i’r Eidal yw ein bod ni’n ca’l treial gwahanol fathau o rwyfo. Bois bach. Buon ni mewn un cwch oedd yn edrych fel bod e’n dod o’r Ail Ryfel Byd, dwy waith maint ein cychod bach Celtaidd ni. Ac wrth i chi rwyfo, mae’n rhaid i chi sefyll ar eich traed a defnyddio pwysau eich corff i symud y cwch. Dim ond dwywaith cawson ni gyfle i fod mewn cwch cyn i orfod cystadlu yn y ras ryngwladol.

Fe ddaeth y dydd i rasio a dyma ni’n dechre poeni. A’th ein becso yn wa’th wrth weld y dorf o bobol yn tyfu a thyfu. Becso bydden ni’n colli o flaen yr holl bobol yma.

Wel fe ddaeth yr amser a dyma ni yn cael benthyg tair Eidales i fod yn rhan o’n criw. Un peth arall oedd yn wahanol am rasio yma, roedd yna 8 person yn rhywfo yn y cychod anferth yma i’w gymharu a pedwar yn rhwyfo ein cychod ni adre’. Cawson ni hefyd fenthyg y cox a diolch byth am hynny!

Dyma’r ras yn cychwyn a phob menyw yn y cwch yn chwythu a gwthio ein hunain i’r eithaf, estyn ymlaen, codi lan a pwyso nol gyda phob dim oedd gennym ni. Fe gyrraeddon ni y buoy a dechre troi’r cwch, ond fe aeth rhywbeth o’i le gyda amseru ein strokes ni. Ro’n ni’n rhedeg mas o amser ac yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r egni ‘na o rhywle. “Dig deep” ro’n nhw’n gweiddi. Ond o le fydden ni’n cael yr egni?

Fe wnaethon ni wthio i’r lan a wedyn dechre troi’r cwch. Dyma’r cox yn paratoi i ddeifio mewn i’r dwr a nofio am y lan, cyrraedd y rhaff a’i dringo (gyda dwylo gwlyb!) cyn estyn am hances ar dop y rhaff. Dyna sut oeddech chi’n ennill y ras! Roedd y pwysau i gyd yn cwympo ar ysgwyddau’r cox ar y diwedd ond roedd ein cox ni yn gyflym a chryf ac fe dynnodd hi ei hun lan y rhaff mewn chwinciad. A dyna ni i gyd mewn sioc… Ro’n ni wedi ennill… Y menywod cyffredin o Gymru (a oedd ‘di bwyta hufen ia bob dydd cyn y ras!!).

Un o’r pethau gorau am rwyfo yw’r profiadau yma. Roedd hi’n braf bod yng nghwmni un clwb yn benodol sef Malta… Clwb gyda chymaint o ddwli a’n clwb ni!

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom