GAIR O’R GORLLEWIN
P’UN ai eich bod yn gweithio ym myd addysg a’i peidio, mae mis Medi yn parhau i fod yn drobwynt yn ein calendrau – yn teimlo fel dechrau newydd, cyfle newydd. Mae teimlad tebyg yn perthyn i fis Ionawr, ond mae’r tywydd cynhesach a gwyrddni’r coed, i mi, yn cynnig ychydig mwy o gyffro.
Mae nifer o rieni funud olaf fel ni yn brysio o gwmpas y dref yn casglu gwisg ysgol, casau pensiliau, esgidiau newydd… a na, yn anffodus, dyw’r hen rhaid ddim bellach yn ffitio. Mae’r plant wedi tyfu, a’r newidiadau hyn yn arwydd pendant o’r tyfiant corfforol hwnnw. Haws yw mesur y fath hynny o dyfiant ar bapur efallai. Ond rydym ni gyd yn gwybod bod na dyfiant emosiynol a meddyliol wedi digwydd yn ogystal, i bob un ohonom.
Dydyn ni ddim yr un person ag yr oeddem ni cyn yr haf. I nifer, mae cyfnod y misoedd braf wedi teimlo fel yr hafau ry’m ni wedi arfer â nhw cyn y newidiadau byd-eang diweddar, a’r cyfle I ddod at ein gilydd, i fwynhau digwyddiadau a gweithgareddau yn ogystal ag ambell eiliad dawel fan hyn a fan draw wedi bod yn falm i’r enaid. Gwyliau adref oedd hi i ni eleni, ac am hyfryd oedd treulio amser yn ein milltir sgwâr yn archwilio gerddi’r Esgob yn Abergwili, ymweld â chaffis blasus y dref, treulio ambell i brynhawn gwlyb mewn canolfan chwarae meddal, ymweld â’n siopau annibynnol, mynychu Gwyl yr Afon a Gwyl Canol Dre… i enwi ond ychydig, a hyn oll ar stepen ein drws, a’r ddwy Wyl yn rhad ac am ddim.
Yn frith drwy’r cyfan, mae bwrlwm cyfarfodydd pwyllgorau amrywiol Eisteddfod yr Urdd a fydd yn dod I’n plith y flwyddyn nesaf wedi bod yn mynd ymlaen yn y cefndir. Ac wrth i ni fwrw ymlaen at yr Hydref, a’n calendrau yn dechrau llenwi gyda digwyddiadau misoedd olaf 2022, carwn dynnu eich sylw at Wyl arall fydd unwaith eto yn rhad ac am ddim ac yn dechrau yng nghalon Caerfyrddin – Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin, 2023.
Bydd wythnos gyfan o weithgareddau a digwyddiadau rhwng y 17ain a’r 24ain o Fedi, yn dechrau gyda gorymdaith farweddog am 11yb ar y 17ain drwy ganol y dref i ysgolion a mudiadau. Byddant yn gadael o Neuadd y Sir, ac mae gwahoddiad cynnes i bawb ymuno â ni ym Mharc y Dref rhwng 12 a 2 am fwyd, gweithgareddau, jambori a cherddoriaeth. Bydd Cymanfa Ganu’r Cyhoeddi yn cael ei chynnal ar yr 18ain o Fedi am 6yh yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman o dan arweinyddiaeth Meinir Richards a Christopher Davies yn cyfeilio a chyda Dechrau Canu Dechrau Canmol yn recordio, gofynnir yn garedig i bawb fod yn ei sedd erbyn 5.30. Mae nifer o ddigwyddiadau eraill hwnt ac yma yn ystod yr wythnos a chrisialir yr Wyl gyda gorymdaith arall yn Llanymddyfri ar y 24ain, cartref Eisteddfod ein Sir y flwyddyn nesaf.
Mae’r wybodaeth oll – gan gynnwys gwybodaeth am gig arbennig yn y Cwins ar y 17ain a gig yn Llanymddyfri ar y 24ain – ar ein tudalen Facebook: Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich gweld chi gyd yno.
Hanna Hopwood Griffiths