Carmarthen Journal

Gwobrau Elusennau Cymru 2022 – derbyn enwebiadau nawr

-

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl o’r diwedd! Mae’r gwobrau, a drefnir gan CGGC, yn ddathliad o’r gwaith hanfodol mae mudiadau gwirfoddol yn ei wneud yng Nghymru.

Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers y gwobrau cyntaf, ac yn yr amser hwnnw, mae’r sector gwirfoddol wedi dod yn fwy hanfodol fyth. Yng ngŵydd argyfyngau lluosog sydd wedi effeithio ar ein cymdeithas, mae elusennau a gwirfoddol­wyr wedi cyd-dynnu i wneud gwahaniaet­h i fywydau pobl ar hyd a lled Cymru.

O gymunedau yn trefnu i ddiogelu eu pobl fwyaf agored i niwed drwy lifogydd a chyfnodau clo, i fudiadau a newidodd eu gwasanaeth­au i fwydo eu cymunedau yn ystod y pandemig, mae ein sector gwirfoddol wedi profi dro ar ôl tro ei fod yn rym hanfodol ar gyfer datblygu a newid yng Nghymru.

Ni allai’r amseru fod yn well, yn ein tyb ni, i

Wobrau Elusennau Cymru ddychwelyd a sicrhau bod y bobl a’r mudiadau ysbrydoled­ig hyn yn cael y gydnabyddi­aeth y maen nhw’n eu haeddu.

A oes elusen, menter gymdeithas­ol neu wirfoddolw­r wedi gwneud gwahaniaet­h i’ch bywyd chi felly yn ystod y blynyddoed­d diwethaf?

Efallai eich bod wedi gweithio gyda mudiad sydd wedi gosod esiampl go iawn o arfer da ar gyfer y sector ehangach?

Efallai bod un o’ch gwirfoddol­wyr yn gweithio’n ddiflino i’ch helpu chi a’ch achos?

Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael y gydnabyddi­aeth y maen nhw’n eu haeddu – enwebwch nhw am Wobr Elusennau Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 20 Medi 2022. I gael rhagor o wybodaeth a sut i enwebu, ewch i www.gwobrauelu­sennau.cymru

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom