Carmarthen Journal

Fy swydd newydd gyda’r fenter

-

Helo, fy enw i yw Luned ac rwyf wedi dechrau fy swydd newydd gyda Menter Gorllewin Sir Gâr fel Swyddog Datblygu Dyffryn Teifi.

Wel, mae dros fis bellach wedi mynd heibio ers i mi gychwyn gyda’r Fenter. Rwyf wedi derbyn llwyth o brofiadau amrywiol yn barod, megis cydweithio gyda mudiadau gwahanol yr ardal, trefnu digwyddiad­au ar gyfer tymor yr Hydref yn ogystal â chymryd rhan yng ngweithgar­eddau’r prosiect Haf o Hwyl.

Gyda’r prosiect Haf o Hwyl, cynhelir amryw o ddigwyddia­dau megis nofio, beicio ac adweitheg babi. Bues i yn ddigon ffodus i staffio’r gweithgare­ddau Mwynhau Mwd Cynradd ac Uwchradd yn “Aspiration­s Outdoor Adventure” a sesiynau Ar y dŵr Cynradd ac Uwchradd yn “Llandysul Paddlers Canoe Centre.” Diwrnodau llawn hwyl a sbri gan arbrofi a chymryd rhan mewn gweithgare­ddau gwahanol mewn amgylchfyd diogel. Roedd yn gyfle i gael profiadau newydd a chreu ffrindiau newydd hefyd – gwnaethon ni fel staff y diwrnodau yma fwynhau hefyd!

Wrth i ni fynd i mewn i dymor yr Hydref, rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gydag ysgolion, mudiadau a lleoliadau yn ardal Dyffryn Teifi i gyfoethogi’r Gymraeg yn eu cymunedau. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddod i adnabod lleoliadau cyhoeddus gwahanol sydd o fewn cymunedau bach Dyffryn Teifi, gan fy mod yn gwybod o brofiad pa mor bwysig yw neuaddau a lleoliadau eraill i gynnal digwyddiad­au i’r gymuned ac i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw.

 ?? ?? Mwynhau mwd uwchradd.
Mwynhau mwd uwchradd.
 ?? ?? Mwynhau mwd cynradd.
Mwynhau mwd cynradd.
 ?? ?? Ar y dwr cynradd.
Ar y dwr cynradd.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom