Carmarthen Journal

Ysgol yn derbyn gwobr fawreddog Unicef UK

-

MAE Ysgol Gymraeg Brynsierfe­l yn Llwynhendy, Llanelli wedi derbyn Gwobr Arian Ysgolion sy’n Parchu Hawliau gan Unicef UK.

Unicef yw’r sefydliad blaenllaw yn y byd sy’n gweithio i blant a’u hawliau. Mae’r Wobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau yn cael ei rhoi i ysgolion sy’n dangos ymrwymiad i hyrwyddo a gwireddu hawliau plant ac annog oedolion, plant a phobl ifanc i barchu hawliau pobl eraill yn yr ysgol.

Rhoddir y wobr arian i ysgolion sy’n gwneud cynnydd rhagorol tuag at wreiddio egwyddorio­n Confensiwn y Cenhedloed­d Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn eu hethos a’u cwricwlwm. Mae dros 1,300 o ysgolion ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi ennill y wobr Arian ac mae dros 600 o ysgolion wedi derbyn y wobr Aur, sef y cam nesaf a’r anrhydedd mwyaf a roddir gan Unicef.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gymraeg Brynsierfe­l, Mrs Jayne Davies: “Rwy’n falch iawn o’r ysgol am ennill y wobr arian fawreddog hon ar gyfer hawliau plant.

“Yn Ysgol Gymraeg Brynsierfe­l, rydyn ni i gyd yn ymwybodol iawn bod angen i blant fod yn ymwybodol o’u hawliau o oedran ifanc a’u cysylltu â’u profiadau bywyd eu hunain.

“Rydym yn ymwybodol efallai na fydd rhai plant yn y gymuned leol yn cael mynediad at eu holl hawliau ac mae’r ffordd hon o weithio wedi ein helpu i nodi a chefnogi anghenion ein teuluoedd ymhellach.

“Hoffwn ddiolch o galon i Miss Sophie Harding (Athrawes Ddosbarth), y llysgenhad­on Hawliau Plant, llywodraet­hwyr, staff a dysgwyr am eu holl gymorth wrth roi hawliau plant wrth galon yr ysgol ac am gydweithio’n gadarnhaol i ennill anrhydedd mor wych.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: “Mae Cyngor Sir Caerfyrddi­n yn falch iawn o Ysgol Gymraeg

Brynsierfe­l am ennill Gwobr Arian Ysgolion sy’n Parchu Hawliau Unicef. Mae’r wobr hon yn cydnabod yn glir y gwaith caled a wnaed gan bawb yn yr ysgol i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu hyrwyddo a’u gwireddu.

“Mae addysgu ein disgyblion, a hefyd oedolion, am hawliau plant yn hanfodol er mwyn galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.”

Mae’r Wobr yn cydnabod llwyddiant o ran rhoi Confensiwn y Cenhedloed­d Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth wraidd cynlluniau, polisïau ac arferion ysgol.

Mae Ysgol sy’n Parchu Hawliau yn gymuned lle mae hawliau plant yn cael eu haddysgu, eu dysgu, eu

hymarfer, eu parchu, eu diogelu a’u hyrwyddo.

Dywedodd Frances Bestley, Cyfarwyddw­r Rhaglen Ysgolion sy’n Parchu Hawliau Unicef: “Mae’r plant yn Ysgol Gymraeg Brynsierfe­l wedi dangos dealltwria­eth dda o’r Confensiwn a dealltwria­eth gref o’r byd ehangach. Mae’n wych gweld faint mae’r Confensiwn yn sail i waith a gwerthoedd yr ysgol, yn yr ystafell ddosbarth ac yn ystod amser chwarae.

“Roedd yn wych gweld y brwdfryded­d y dangosodd y plant a’r staff i gyd am ddysgu am hawliau. Rydym yn falch iawn o ddyfarnu’r wobr Arian: Ymwybodol o Hawliau i Ysgol Gymraeg Brynsierfe­l ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith

Parchu Hawliau gyda’r ysgol.”

Mae menter Ysgolion sy’n Parchu Hawliau Unicef UK wedi’i hanelu at ysgolion ledled y DU, gan gynnwys y rhai mewn lleoliad blynyddoed­d cynnar. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda bron i 5,000 o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Mae ysgolion wedi gweld effaith gadarnhaol ar berthnasoe­dd, llesiant ac ymddygiad disgyblion drwy wella hunan-barch disgyblion, gan arwain at lai o driwantiae­th a bwlio, profiad dysgu gwell a gwell safonau academaidd.

 ?? ?? Mae Ysgol Gymraeg Brynsierfe­l yn Llwynhendy, Llanelli wedi derbyn Gwobr Arian Ysgolion sy’n Parchu Hawliau gan Unicef UK.
Mae Ysgol Gymraeg Brynsierfe­l yn Llwynhendy, Llanelli wedi derbyn Gwobr Arian Ysgolion sy’n Parchu Hawliau gan Unicef UK.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom