Merched y Wawr Caerfyrddin
AR ôl cyfnod o fethu â chyfarfod am dair blynedd, roedd yn hyfryd cael croesawu’r aelodau nôl i’r Atom i gyfarfod cynta’r tymor.
Er nad oeddem, fel cangen, wedi cwrdd, roedd Merched y Wawr, yn genedlaethol, wedi trefnu’n helaeth ar ein cyfer ym mhob ffordd - yn sgyrsiau diddorol ar Zoom, yn deithiau cerdded a chant a mil o gyrsiau coginio a chrefft ar lein. Fe gadwodd y mudiad ni oll gyda’n gilydd.
Ar Fedi 14, ein gwr gwadd oedd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys. Gwr ifanc sydd wedi byw ymhob rhan o Ddyfed ac wedi cael llawer o brofiadau yn ei waith yn dadansoddi data gyda’r heddlu a chyfnod yn darlithio ar droseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn 2016 cafodd ei ddewis gan Blaid Cymru i fod yn ymgeisydd am swydd Comisiynydd.
Sylweddolom, wrth iddo siarad am ei rôl, pa mor bwysig yw’r swydd hon. Mewn gwirionedd , y Comisiynydd sy’n gyfrifol yn y pendraw am lwyddiant a methiannau’r Llu.
Mae’n gyfathrebwr rhwydd ac fe gawsom wybod llawer am ei deulu a’i ddiddordebau amrywiol fel beicio, golff a phêl-droed.
Dymunwn pob llwyddiant iddo yn ei ail dymor yn y swydd.
Bydd ein cyfarfod nesaf yn yr Atom brynhawn Mercher, Hydref 12 pan ddaw merched o Glinig Bach y Wlad atom. Croeso cynnes i aelodau newydd. Byddwn yn sicr o’ch gwneud yn gartrefol.