Staff newydd yn ymuno â thîm Menter Gorllewin Sir Gâr!
YM mis Gorffennaf ac Awst, penodwyd swyddogion newydd i ymuno â thîm Menter Gorllewin Sir Gâr.
Betsan Williams yw ein Swyddog Datblygu newydd ar gyfer ardaloedd San Clêr a Hendygwyn-ar-daf a Luned Jones yw ein Swyddog Datblygu newydd ar gyfer ardal Dyffryn Teifi. Mae’r ddwy yn edrych ymlaen at hyrwyddo’r Gymraeg yn yr ardaloedd ac i ddod i nabod pobl yr ardal.
Mae sesiynau’r Fenter wedi cychwyn ac fe welwch chi Betsan a Luned mewn sesiynau teithiau bygi, sesiynau stori, sesiynau i ddysgwyr ac i’r teulu cyfan ar draws yr ardal, dewch i ddweud helo wrth y ddwy.
Mae Heledd Llwyd wedi gweithio i’r Fenter ers 2017 ond wedi dechrau mewn rôl newydd sef Swyddog Busnes a Nawdd, dros yr haf.
Dywed Heledd ‘Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda mwy o fusnesau ardal Gorllewin Sir Gâr ac yn edrych ymlaen at her newydd. Peidiwch ag oedi os ydych chi eisiau cefnogaeth i gynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog yn eich busnes, elusen neu sefydliad, fy ebost yw: heledd@mgsg.cymru neu dwi’n hapus i gael sgwrs ar y ffon i drafod ymhellach 01239 712934’.
Mae’r dair yn edrych ymlaen yn arw at gychwyn ar brosiectau cyffrous gan sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn ardaloedd Gorllewin Sir Gâr. Os hoffech drafod unrhyw syniadau neu wybod mwy am ein digwyddiadau dros y misoedd nesaf, hoffwch ein tudalen Facebook ‘Menter Gorllewin Sir Gar’, Instagram: Mentergsg a dilynwch ni ar Twitter ‘Mentergsg’ neu cysylltwch ar 01239 712934 ymholiad@mgsg.cymru