Diweddariad Cyngor Tref Caerfyrddin
Digwyddiadau
Gyda newid y tymhorau a diwedd y flwyddyn yn prysur agosáu, mae digwyddiadau’r haf a gynhaliwyd yn y parc wedi dod i ben am flwyddyn arall. Diwedd yr haf cynhaliwyd dau ddigwyddiad bendigedig yn y parc gyda’r Maer, y Cynghorydd Miriam Moules. Ar 20 Awst croesawyd teuluoedd niferus i barc y dref ar gyfer picnic tedi bêrs. Roedd Band Chwyth Symffonig Caerfyrddin yna i ddiddanu pawb ac enillodd rhai gwobrau ar gyfer y tedis oedd wedi’u gwisgo gorau.
Wythnos yn hwyrach, cynhaliwyd ‘Diolch o Galon’ gan y Maer, cyfle i ddiolch i bawb am eu hymrechion yn ystod y pandemig. Roedd diolch arbennig i’r gwirfoddolwyr oedd wedi ateb y galw gan y Cyngor Tref i helpu pobl fregus yn ystod y pandemig. Perfformiodd y Welsh Whisperer trwy gydol y digwyddiad a daeth tipyn o bobl draw I fwynhau.
Erbyn hyn mae paratoadau ar fynd am orymdaith Sul y Cofio. Bydd yr orymdaith yn dechrau am 9.30 ar ddydd Sul 13 Tachwedd o’r Clos Mawr, croeso i bawb ddod i ni gofio gyda’n gilydd.
Mae sefydliadau’r dref gan gynnwys Menter Gorllewin Sir Gar a BID Caerfyrddin yn brysur yn cynllunio eu digwyddiadau Nadolig. Bydd y Cyngor Tref yn cychwyn y dathliadau ar ddydd Sadwrn 19eg o Dachwedd gyda’r ceirw a Siôn Corn ar Maes Nott – a chynnau’r goleuadau Nadolig yn hwyrach yr un diwrnod ar y Clos Mawr. Bydd adloniant a gweithgareddau trwy gydol y dref rhwng 10yb a 5yh - ‘Croeso Cynnes Caerfyrddin’ i chi a’r Nadolig unwaith eto!
Strategaeth Newydd y Cyngor Mae’r Cyngor newydd sydd mewn lle ers mis Mai eleni yn ffurfio stategaeth newydd ac yn chwilio am adborth gan y gymuned. Bydd y strategaeth yn penderfynu blaenoriaethau’r Cyngor am y pum mlynedd nesaf a hoffai’r Cyngor gael cymaint â phosib o syniadau gan bobl y dref. Cadwch lygad mas am yr ymgynghoriad neu gysylltwch â’ch aelod lleol i rannu eich barn.
Cyswllt Cymunedol
Bydd prynhawn agored ar 24 Hydref yn Neuadd San Pedr rhwng 1 a 3 o’r gloch yn croesawu pobl i ddod am baned (yn rhad ac am ddim) a sgwrs gyda phobl eraill, bydd cyngor ar gael gan sefydliadau lleol i’ch helpu gyda’ch cwestiynau a’ch pryderon. Bydd croeso cynnes i bawb, dewch i ddweud helo.
Emma Smith Clerc y Dref