Sesiynau Stori’r Fenter
AR ôl prysurdeb digwyddiadau Menter Gorllewin Sir Gâr yn ystod yr haf, braf iawn yw ailddechrau ein sesiynau stori.
Mae ein Swyddogion Datblygu Alma, Luned a Betsan yn brysur iawn yn cynnal y sesiynau yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau yng Nghaerfyrddin, Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni, Llyfrgell Castell Newydd Emlyn ac Y Gât San Clêr. Braf yw gweld nifer o deuluoedd yn mynychu’r sesiynau gwahanol.
Rydym hefyd wedi gwneud sesiynau stori gyda grwpiau gwahanol, megis Plant Dewi yng Nghastell Newydd Emlyn, Canolfan Deulu Llanybydder a Dechrau Disglair yn San Clêr.
Mae’r sesiynau yn cynnwys darllen storïau Cymraeg a chanu caneuon hwiangerddi a rhigymau. Yn amlwg, rhaid defnyddio amryw o adnoddau gweledol a lliwgar i ddiddanu’r babanod, y plant bach a’r rhieni wrth sgwrs!
Os ydych am fwy o wybodaeth am y sesiynau stori neu unrhyw ddigwyddiad arall yn eich ardal, cysylltwch ag
Alma- alma@mgsg.cymru Swyddog Datblygu Caerfyrddin a’r cyffiniau
Luned- luned@mgsg.cymru Swyddog Datblygu Ardal Dyffryn Teifi
Betsan- betsan@mgsg.cymru Swyddog Datblygu Ardal Dyffryn Taf