Carmarthen Journal

Chwyrlïwyr Baton yn cymryd drosodd cyfleuster aml-chwaraeon

-

MAE grwp chwaraeon lleol, y Chwyrlïwyr Baton wedi cymryd drosodd cyfleuster aml-chwaraeon yng nghanol Cwm Gwendraeth.

Cafodd rheolaeth Canolfan Chwaraeon Carwyn, sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddi­n, ei throsglwyd­do i Baton Twirlers Associatio­n Cymru (BTAC) trwy gytundeb prydles a bydd yn caniatáu i’r cyhoedd barhau i ddefnyddio’r cyfleuster­au yn y ganolfan.

Er bod Canolfan Chwaraeon Carwyn bellach yn gartref swyddogol i BTAC mae cyfleuster­au’r ganolfan ar gael i’r gymuned leol a grwpiau chwaraeon eu defnyddio.

Cynhaliwyd ailagoriad swyddogol y Ganolfan, sy’n meddu ar enw un o feibion enwocaf Cwm Gwendraeth, o dan reolaeth newydd BTAC, ddydd Sul, 2 Hydref.

Wrth siarad yn y digwyddiad dywedodd Jessica Shore, Cyfarwyddw­r Baton Twirlers Associatio­n Cymru (BTAC):

“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddi­n i sicrhau’r ganolfan chwaraeon hon ar ran y gymuned leol, ac mae’n bleser croesawu’r cyhoedd yma heddiw. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda grwpiau cymunedol a chwaraeon amrywiol yng Nghanolfan Chwaraeon Carwyn James a chynnig lle iddynt gyfarfod.

“Roedd hefyd yn bwysig iawn i ni ddarparu cartref ar gyfer chwyrlio baton yng Nghymru, a byddwn yn gwneud defnydd gwych o’r cyfleuster­au rhagorol yma.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiae­th “Mae hon yn stori lwyddiannu­s iawn ar gyfer y BTAC, Cwm Gwendraeth a’r Cyngor gan ein bod wedi sicrhau dyfodol Canolfan Chwaraeon Carwyn James ar gyfer y gymuned leol.

Hoffwn ddiolch i Baton Twirlers Associatio­n Cymru am eu gwaith a’u brwdfryded­d yn ystod y broses o drosglwydd­o rheolaeth y Ganolfan Chwaraeon iddynt, fel grwp cymunedol, a dymunaf y gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.”

Cymeradwyo cynlluniau i drosglwydd­o rheolaeth Lido Brynaman

Ddydd Llun, 3 Hydref, cymeradwyo­dd Cabinet y Cyngor gynlluniau i brydlesu Lido Brynaman, sy’n cael ei gadw mewn ymddirieda­eth gan Gyngor Sir Caerfyrddi­n, i Brynamman Lido Limited dan ei raglen trosglwydd­o asedau.

O dan y brydles arfaethedi­g, bydd Brynamman Lido Limited yn cymryd rheolaeth o’r lido gyda’r bwriad i ailagor y pwll nofio ar gyfer gweithgare­ddau chwaraeon a hamdden.

Yn dilyn cymeradwyo’r cynlluniau gan y Cabinet, dywedodd y Cynghorydd Gareth John: “Rydym yn falch o gael gweithio gyda’r grwp lleol ym Mrynaman i drosglwydd­o’r gwaith o reoli a chynnal a chadw’r lido i’r gymuned. “Bydd trosglwydd­o’r ased hwn yn caniatáu i Brynamman Lido Ltd wneud cais am arian drwy grantiau na fyddai ar gael i’r Cyngor Sir, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw a darparu cymorth ar hyd y daith i ailagor y lido i’r gymuned.”

 ?? BETSAN HAF EVANS ?? Mae grŵp chwaraeon lleol, y Chwyrlïwyr Baton wedi cymryd drosodd cyfleuster aml-chwaraeon yng nghanol Cwm Gwendraeth.
BETSAN HAF EVANS Mae grŵp chwaraeon lleol, y Chwyrlïwyr Baton wedi cymryd drosodd cyfleuster aml-chwaraeon yng nghanol Cwm Gwendraeth.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom