Te prynhawn i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin
Gwnaeth dros 100 o drigolion Sir Gâr deithio i Westy Parc y Strade yn Llanelli ddydd Sul, Hydref 9, i de brynhawn arbennig er mwyn codi arian ar gyfer cronfa Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.
Jennifer Maloney a fu’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a braf oedd gweld pawb yn mwynhau’r holl ddanteithion melys a sawrus oedd i’w fwyta yn ystod y prynhawn.
Y gyflwynwraig Heledd Cynwal a gafodd y dasg o arwain yr adloniant yn ystod y prynhawn. Y Soprano a’r delynores Joy Cornock Thomas o Dalyllychau oedd yn gyfrifol am gychwyn yr adloniant drwy berfformio dwy gân ‘Y Caeau Aur’ ac ‘Esgair Llyn’. Yna, tro Cadi Lois o Rydaman oedd hi, ac fe wnaeth hi ganu addasiad o gân enwog Elton John ‘Your Song’ ac yna addasiad o’r gân ‘Part of Your World’ o’r ffilm Disney ‘Little Mermaid’. Daeth Noah Potter i ddiddanu’r gynulleidfa wrth glocsio yng nghanol yr ystafell. I fyd y sioeau cerdd aeth Carys Hâf o Caio a’r gynulleidfa gyda’i pherfformiad o ‘Yn cau amdanaf i’ o’r sioe gerdd Pum Diwrnod o Ryddid, ac yna ‘Rwy’n dy weld yn sefyll’ o’r sioe gerdd ‘Ann’ gan Gwmni Theatr Maldwyn. Penderfynodd Eirian Davies o Langadog ganu’r clasuron ‘Cilfan y Coed’ ac ‘Os allaf helpu rhywun’, cyn cloi’r prynhawn gyda deuawd yng nghwmni Carys Hâf gyda pherfformiad hynod deimladwy o ‘Anfonaf Angel.’ Diolch yn fawr iawn i Meinir Richards ac i Eifion Price am gyfeilio i’r artistiaid.
Yn ystod y prynhawn hefyd bu cyfle i brynu rhai o nwyddau’r Eisteddfod megis yr ymbarel, bag, cwpan coffi, y teclyn ar gyfer y ffôn a ‘Rhost yr Urdd’ sef coffi arbennig a lansiwyd yn ddiweddar gan Gwmni Coffi Alffi a Chaffi’r Atom yng Nghaerfyrddin er mwyn codi arian at goffrau’r Eisteddfod.
Llwyddwyd i godi £1050 tuag at goffrau’r Eisteddfod. Heb amheuaeth roedd llwyddiant y digwyddiad o ganlyniad i ffrwyth gwaith Jennifer Maloney, a charai’r pwyllgor ddiolch o galon iddi hi a Gwesty Parc y Strade am brynhawn arbennig.
Byddwn fel Pwyllgor Gwaith a Phwyllgorau Lleol yn parhau i gynnal digwyddiadau i godi arian a chodi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod ar draws y sir am y misoedd nesaf. Am y wybodaeth ddiweddaraf, cofiwch ddilyn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 ar Facebook.