Dathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae Menter Gorllewin Sir Gâr
TREFNWYD digwyddiadau diri gan Fenter Gorllewin Sir Gâr i ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae, sydd yn digwydd ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn.
Er mwyn gwneud y gorau o’r cyfle, penderfynodd y fenter gynnal pythefnos o ddathliadau amrywiol.
Roedd yr wythnos gyntaf o ddathliadau, sef yr wythnos cyn Diwrnod Shwmae Su’mae yn llawn digwyddiadau, megis teithiau bygi yng Nghaerfyrddin, Castell Newydd Emlyn ac Hendygwyn-ar-daf.
Yn ogystal, gwnaethon barhau gyda’r clybiau ar gyfer siaradwyr newydd a siaradwyr Cymraeg mwy hyderus, sef Paned a Sgwrs yng Nghaerfyrddin, Paned a Phapur yn Nrefach Felindre a Choffi a Chlonc ar Zoom. Cynhaliwyd cwis yn y lleoliadau yma i ddathlu’r diwrnod yn ogystal. Braf oedd ailddechrau’r Clwb Darllen i Oedolion yr wythnos honno hefyd, sydd yn digwydd ar ail nos Fawrth y mis.
Roedd hi’n ddydd Sadwrn prysur iawn ar gyfer aelodau o staff y Fenter, wrth i Siani Sionc ymweld â Thalacharn a Llannewydd i ganu, dawnsio a dathlu Diwrnod Shwmae Su’mae. Gwnaeth bawb fwynhau’r diwrnod yn fawr iawn a diolch i bawb ymunodd yn y dathliad.
Yn yr wythnos ganlynol, tro’r sesiynau stori oedd hi- yng Nghaerfyrddin, Maesycrugiau Llanllwni, San Clêr a Chastell Newydd Emlyn. Yn ogystal, ailgychwynnodd Clwb Darllen misol siaradwyr newydd, sydd yn digwydd ar drydedd nos Fawrth y mis.
Cynhaliwyd clybiau drama yng Nghaerfyrddin i blant o oed amrywiol a gwnaeth pawb fwynhau’r sesiynau yn fawr iawn. Ar yr 20fed o Hydref sef diwrnod olaf ein dathliadau Shwmae Su’mae, dechreuodd ein sesiynau Adweitheg Babi ym Mheniel, a roedd yn gyfle gwych arall i siarad Cymraeg gyda’r plant a’r rhieni fynychodd.
Hefyd, aeth ambell aelod o staff Menter Gorllewin Sir Gar ar daith ysgolion gyda Magi Ann. Buon nhw’n darllen stori a chanu rhigymau Cymreig. Roedd pawb wedi cael amser wrth eu bodd, gan gynnwys Magi Ann!
Diolchwn i bawb fynychodd yr amrywiaeth o weithgareddau gan Menter Gorllewin Sir Gâr i ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae. Os oes unrhyw gwestiwn gyda chi am y sesiynau gwahanol rydym yn cynnig, mae croeso i chi gysylltu gyda ymholiad@mgsg.cymru .