Stella Treharne 1924 – 2022
Pleser o’r mwyaf oedd bod mewn Talwrn y Beirdd yn Neuadd Bancffosfelen yn ddiweddar a hynny ddau ddiwrnod cyn Eisteddfod Flynyddol y Banc. Y prifardd Ceri Wyn Jones Aberteifi oedd y Meuryn yn beirniadu gwaith campus y beirdd, a braf oedd clywed bod pwyllgor yr eisteddfod wedi sefydlu Gwobr Goffa Stella Treharne yn yr eisteddfod i gofio am wraig arbennig iawn a fu farw mis Mawrth eleni. Cyfeiriwyd at hyn yn ystod y Talwrn ac fe ddosbarthwyd nodiadau a gwybodaeth bellach am gyfraniad Stella Treharne yn lleol ac yn genedlaethol. Pleser felly yw cael rhannu ychydig o’r wybodaeth honno yn y golofn hon.
‘Byddaf ffyddlon i Gymru, i gyd-ddyn ac i Grist’ yw arwyddair yr Urdd, ac ni ellir meddwl am neb a fu’n fwy triw i’r addewid hwnnw na Stella, gan iddi ymlafnio gorff ac enaid i roi’r geiriau hyn ar waith drwy gydol ei hoes, gan fod gweithredu yn hollbwysig i Stella.
Heblaw am ei chyfnod yn y coleg ac yn dysgu am ychydig yn Birmingham, yng Nghreiglan, Heol y Banc Bancffosfelen y treuliodd hi weddill ei hoes, a hynny ar aelwyd fyrlymus yng nghwmni ac yng nghanol ei theulu helaeth.
Bu’r Urdd yn gwbl greiddiol yn hanes Stella. Yn ogystal a’i harweiniad gyda Aelwyd Bancffosfelen bu’n weithgar gyda’r mudiad yn genedlaethol, a bu’n rhan o daith yr Urdd i Lydaw yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Cymaint oedd y croeso a’i diddordeb hithau yn y wlad a’i hiaith fel y parhaodd y berthynas honno am hir iawn.
Ym 1968 penodwyd Stella yn brifathrawes gyntaf ar Ysgol Gymraeg newydd Cydweli, sef Ysgol Gwenllian, ac yno y bu hi am weddill ei gyrfa. O dan ei gofal a’i harweiniad cadarn tyfodd yr ysgol i fod yn un llwyddiannus iawn. Mae’n rhaid cofio taw cenhadaeth oedd bod yn bennaeth ar Ysgol Gymraeg yng nghyfnod arloesol y chwe a’r saithdegau. Roedd ei gwroldeb a’i diffuantrwydd dros addysg Gymraeg i’w ryfeddu.
Roedd Stella wedi ymroi, ers pan yn ferch ifanc i gefnogi Plaid Cymru, a bu’n deyrngar i’w gweledigaeth ynghylch Cymru amgen a’r posibiliadau di-ben-draw sydd gan Gymru.
Derbyniwyd hi i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013 fel cydnabyddiaeth gwbl haeddiannol o’i cyfraniad clodwiw i’n diwylliant a’n hiaith ar hyd ei hoes.
Roedd ei gwytnwch a’i dewrder yn destun rhyfeddod i lawer, yn enwedig pan welsent hi, yn ei nawdegau yn cerdded i Bontyberem, beth bynnag fo’r tywydd. Yn fynych byddai’r teithiau hynny yn anelu am gapel Caersalem, a oedd mor agos at ei chalon, a lle bu mor weithgar gan roi ei ffydd gadarn ar waith gyda’i chydbentrefwyr.
Bu’n gweithio’n ddiflino yn ei chymuned gan gyfrannu at lu o gymdeithasau gan gynnwys Cymdeithas Hanes Cwm Gwendraeth, Merched y Wawr, Neuadd Bancffosfelen a Chrwbin ac yn enwedig Eisteddfod Bancffosfelen lle bu’n ysbrydoledig ei harweiniad am gynifer o flynyddoedd.
Coffa da ma wraig mor arbennig a anwyd ar Rhagfyr 16, 1924 ac a fu farw ar Mawrth 18, 2022.