Mae Cadi ar drywydd antur arall – y tro hwn, dros donnau’r môr!
MEWN llyfr newydd yng nghyfres Cadi o’r enw Cadi a’r Mor-ladron sy’n cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa, mae Cadi yn ei hôl, a’i brawd bach, Mabon, yn gysgod iddi eto. Mae hon yn stori arall sy’n mynd â’r darllenwr ar daith gyfrin, wyllt – y tro hwn dros y môr.
Yn ôl yr arfer, mae sawl tro trwstan yn dod i’r wyneb ar y ffordd. Mae hi’n stori sy’n sicr o fynd â bryd y plant bach egnïol, chwilfrydig sydd yn ein plith – y rhai hynny sydd fyth yn blino ar antur. Ac mae’r lluniau bywiog gan Janet Samuel yn ychwanegu at y miri a’r hwyl.
Fe welwch sawl sypreis wrth i’r stori fynd rhagddi, felly peidiwch â synnu gormod o weld môr-ladron, parot, buwch, a chymaint mwy yn dod i’r golwg wrth ichi ddarllen ymlaen.
Ond, fel pob stori arall yng nghyfres Cadi, mae gwers werthfawr i’w dysgu hefyd.
Meddai Bethan Gwanas, awdur y gyfres:
‘Y wers mae Cadi yn ei dysgu tro ma ydi i beidio â barnu pobl yn ôl eu golwg. Mae’r môr-ladron yn edrych yn gas a blêr, ond maen nhw’n reit glên ar fwrdd y Blodwen. A phan fyddan nhw mewn helynt, mi fyddan nhw’n falch o Cadi a’i meddwl chwim.’
Graddiodd Bethan mewn Ffrangeg yn Aberystwyth cyn gwneud amryfal swyddi yn cynnwys gweithio gyda’r VSO yn Nigeria, dod o hyd i ‘extras’ ar gyfer Rownd a Rownd, dysgu plant Cymru sut i ganŵio a dringo yng Nglanllyn a chyflwyno rhaglenni garddio a theithio.
Erbyn hyn, mae wedi cyhoeddi dros 40 o lyfrau amrywiol ar gyfer plant, pobl ifanc, oedolion iaith gyntaf a dysgwyr. Mae’n caru cŵn, coginio a beicio ac yn casáu gwaith tŷ.
Hefyd yn y gyfres – Cadi a’r Celtiaid, Cadi a’r Deinosoriaid, Cadi dan y Dŵr, Coeden Cadi, Cadi a’r Gwrachod.