Ysgol Farddol Caerfyrddin
MAE Ysgol Farddol Caerfyrddin yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu eleni ac i ddathlu’r achlysur mae cyfrol o’r hanes wedi ei chyhoeddi. Enw’r gyfrol yw ‘Ar nos Fercher arferol . . . ‘ ac mae’n cael ei lansio yng Nghlwb Rygbi’r Cwins ar nos Fercher, Tachwedd 23ain am 7yh. Estynnir gwahoddiad i bawb fod yn bresennol ac edrychir ymlaen at noson hwyliog a llawn atgofion. Mae’r gyfrol (124 tudalen) ar werth yn Siop y Pentan pris £5. Am unrhyw ymholiad pellach cysyllter gyda Geraint ar 07814701079.