Apêl Teganau Nadolig blynyddol
MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ei Apêl Teganau Nadolig blynyddol.
Mae’r apêl, sy’n cael ei chynnal am y deuddegfed tro, yn helpu cannoedd o deuluoedd nad ydynt yn gallu fforddio prynu teganau neu anrhegion i’w plant.
Y llynedd, cefnogwyd mwy o deuluoedd a oedd yn cael trafferthion ariannol nag erioed a dosbarthwyd mwy na 7,700 o anrhegion i 1,287 o blant. Eleni yn ystod y cyfnod digynsail hwn rydym yn dibynnu ar gefnogaeth yn fwy nag erioed.
Lansiwyd yr apêl ar-lein am y tro cyntaf yn 2020 yn dilyn y pandemig coronafeirws a gofynnwyd i bobl roi rhodd ariannol yn hytrach na phrynu anrhegion a theganau.
Eleni gall pobl naill ai roi rhodd ariannol neu adael anrhegion o gemau, eitemau celf a chrefft i bethau ymolchi ar gyfer pob oedran - o 18 mis hyd at bobl ifanc yn eu harddegau, yn un o nifer o fannau casglu o amgylch y sir.
Mae ysgolion, canolfannau teulu a gweithwyr ieuenctid yn nodi’r rheiny sydd fwyaf angen cymorth ac mae staff y cyngor yn eu dosbarthu yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am yr Apêl Teganau Nadolig: “Rwy’n falch o fod yn parhau gyda’r apêl a fu dan ofal y diweddar Gynghorydd Mair Stephens a fu farw yn gynharach eleni. Mae’r apêl teganau eleni yn mynd i fod yn bwysicach nag erioed. Rydym bob amser wedi cael cefnogaeth wych ac eleni rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau er mwyn sicrhau y bydd cannoedd o blant yn derbyn anrheg Nadolig. Rydym yn gwybod ei bod yn gyfnod anodd, ond os yw’n bosibl i bobl gyfrannu anrheg neu rodd, dim ots pa mor fawr neu fach, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r teuluoedd hynny sy’n llai ffodus.”
Gallwch roi cyfraniad ariannol ar-lein. Os hoffech roi arian parod neu siec, ffoniwch 01267 246504.
I weld lleoliadau’r mannau casglu ewch i wefan y cyngor.
Mae rhoddion yn cael eu derbyn hyd at Tachwedd 30.