Arbennig o Barod ei Gymwynas
MAE tipyn o hiraeth ar ôl Sion Harri o Bontarddulais.
Falle bod y rhelyw o bobol yn ei nabod fel John.
Mae’n syndod shwd y gallodd e wasgu cynifer o weithgareddau i’w gyfnod gyda ni ar y ddaear.
Bydd rhai o bobol sir Gâr yn ei gofio yn helpu’n wythnosol gyda Llyfrau Llafar ac yn ymuno gydag aelodau Cymdeithas Edward Llwyd ar Daith Gerdded.
Hefyd cymryd rhan ym mhasiantau arbennig Peniel a Chaerfyrddin.
Ganol dydd byddai’n mwynhau’r gwmniaeth a’r tynnu coes yn y ty bwyta Cymreig yn nhre Caerfyrddin.
Byddai’na dipyn o chwerthin a doniolwch yn y sgwrs yn amal gyda John.
Yn y misoedd ola fe ddaeth rhyw wendid i lethu ei ysbryd ac effeithiodd hynny ar ei iechyd. Fe fu farw ar Fedi 5, 2022.
Roedd yn frodor o Bontarddulais ac fe ddychwelodd yno i weithio ac ymgartefu yn yr hen gartre ar ol cyfnod cymharol fyr o weithio yn Lloegr.
Mae’n debyg taw cymysg oedd hi i rywun o Anian John i ddychwelyd i’w gynefin.
Roedd dylanwad y bywyd gwledig Cymreig wedi effeithio tipyn ar ei agwedd at gymdeithas a gwleidyddiaeth.
Pan yn ifanc fe fu yn helpu ar fferm y ddwy Miss Rees yn ardal Llanedi.
Roedd y gymdogaeth honno yn y 1950’au yn Gymreig gyda’r gwerthoedd traddodiadol.
Ces innau fy magu ym Mhontarddulais ac rwy’n cofio John yn yr ysgol gynradd ar arch yr athrawes yn ifanc yn adrodd stori o flaen y dosbarth.
Roedd ei Fodryb hefyd yn gyfrifol am gegin Cantin yr ysgol!
Buodd tad John yn Gynghorydd
Llafur ond fe ddatblygodd John i fod yn bybyr dros Blaid Cymru a Chymdeithas yr iaith a.y.b. Roedd yn gapelwr ffyddlon trwy gydol ei oes Roedd wedi bod ynglyn a Chymanfa Ganu y Methodistiaid ac yn rhan o’r trefnu ar un adeg.
Roedd e hefyd yn ymuno ac yn cefnogi Cylch Cinio Dyffryn Llwchwr.
Gyda ffrindiau byddai’n llogi llety mewn da bryd ac yn mynychu’r Brifwyl bron ar ei hyd.
Ni chafodd John fodd bynnag ambell anrhydedd a ddymunai ac a haeddai.
Yn y blynydde diwetha fe fu John yn helpu gyda chynllun Ceir yn y Gymuned yn helpu i gludo pobol bregus a hyn am apwyntiadau meddygol ayb. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn pobol yn arbennig yn ei gynefin ac fe wyddai hanes yr ardaloedd ac ymhellach.
Hefyd bu’n mynychu Beiblaidd ac yn dosbarthiadau cymryd at bregethu yn y gwahanol gapeli.
Roedd’na nodweddion arbennig o hael ym mhersonoliaeth hynaws John -llai gwybyddus mae’n debyg. Roedd yn barod i roi clust i unigolion oedd mewn profedigaeth neu mewn argyfwng ac yn eu croesawu i’r aelwyd yn y Bont. Roedd na nifer oedd yn falch o gefnogaeth breifat John.
Roedd ffrindiau wedi teithio o bell ar gyfer angladd John yn Hope-siloh, Pontarddulais.
Roedd John yntau wedi teithio yn aml ar draws Ewrop gyda rhai o aelodau Cymdeithas Edward Llwyd. Fe fu’n aelod o Gôr y Rhyd. Mae ‘na gof amdano pan gyda’r côr yng Nghanada yn or-garedig wrth ddieithraid pan yn pasio trwy’r tolldai. Mae’n debyg bod y nodwedd garedig yma ar ran John hefyd yn gallu arwain at siom.
Mae’n debyg bydd rhai darllenwyr ag atgofion gwahanol am John Harry a bydd yn ddiddorol eu clywed.