Hanner tymor gyda’r fenter
AR DDIWRNOD Calan Gaeaf, sef dydd Llun, Hydref 31, cynhaliom Parti Calan Gaeaf ar y cyd â’r Atom yng Nghaerfyrddin. Trefnwyd gweithgareddau di-ri yn ystod y bore, megis sesiwn stori, chwarae anniben, gemau amrywiol a chrefftau hefyd. Gwnaeth bawb fwynhau’r gorsafoedd gwahanol oedd yn siŵr o gyffroi eich holl synhwyrau.
Yn ogystal â’r holl weithgareddau yma, cynhaliwyd cystadleuaeth gwisg ffansi ar gyfer y plant fynychodd. Hyfryd oedd gweld y plant yn eu gwisgoedd ffansi calan gaeaf gwych a brawychus. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth ymuno gyda ni yn ystod y digwyddiad yma.
Ar nos Fercher, yr ail o Dachwedd daeth y ddrama Un Nos Ola Leuad gan Theatr Bara Caws i Neuadd San Pedr yng Nghaerfyrddin. Roedd hi’n noson lwyddiannus, a hyfryd oedd gweld tua 200 o bobl yn y gynulleidfa yn llenwi’r neuadd. Roedd yn ddrama’n wych gydag