Yr hen gân ‘na!
MADDEUWCH i fi os ‘ych chi wedi syrffedu ar ffanffer Cwpan y Byd erbyn hyn, ond doedd dim modd rhoi sylw i ddim arall y tro hyn, bobol!
‘Alla i feddwl am nifer o ganeuon o eiddo Dafydd Iwan y mae’n well gyda fi nhw ‘na Yma o Hyd, ond bois bach, rhaid cydnabod fod yr anthem hon wedi magu pwys gwir genedlaethol yn y misoedd diwetha’ ‘ma, a dylsen ni i gyd fod yn ddiolchgar amdani.
Wen i mor falch pan hoeliodd tîm Cymru eu lle yng Nghwpan y Byd, o achos y sylw a’r ymwybyddiaeth gynyddol o Gymru ar lefel fyd-eang, ond gellid dadlau fod hynny wedi gwneud rhywbeth pwysicach byth, sef deffro’r Cymru eu hunain!
Pan glywch chi Gareth Bale yn sôn bod geiriau Yma o Hyd a’r fideo hollol wych (sy’n cynnwys delweddau o Dryweryn ac ymgyrch arwyddion y dyddiau a fu) wedi gwneud i’r chwaraewyr edrych yn ddyfnach i ystyr y geiriau ac i hanes eu gwlad, ni all hynny ond codi calon. Gwnaeth hyn i mi feddwl am effaith geiriau caneuon arna’ i, yn enwedig wrth dyfu lan. Wrth wrando ar ganeuon Dafydd Iwan, Tecwyn Ifan a sawl un arall o ran hynny, roedd y geiriau’n ennyn chwilfrydedd a diddordeb, ac yn fy nysgu am agweddau ar hanes fy ngwlad bron yn ddiarwybod. Nid dim ond hanes Cymru, ond materion rhyngwladol hefyd; fe ganodd Dafydd Iwan am Iwerddon droeon mewn caneuon megis ‘Pedwar Cae’ ac am ffawd gwŷr fel Oscar Romero, a chanodd Tecwyn am dynged Brodorion America mewn caneuon fel ‘Gwaed ar yr Eira Gwyn’ a’r ‘Navaho’. Byddai rhai’n dadlau taw’r alaw sydd bwysica’ mewn cân ond mae’r geiriau llawn cyn bwysiced yn amal iawn, dybia i.
Mae’r hyn mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi’i wneud o ran dod â Chymreictod neu wlatgarwch yn agosach i’r ‘mainstream’ yng Nghymru yn wych, a hynny mewn ffordd gwbl naturiol. Mae llawer o wleidyddion wedi bod yn ceisio gwneud hyn ers degawadau. Ian Gwyn Hughes sy’n gyfrifol erbyn hyn am yr ochr gyfathrebu gyda’r gymdeithas, ac yn fy marn i mae ei weledigaeth a’r hyn mae ei griw wedi’i gyflawni yn golygu ei fod cymaint o arwr â’i dad-cu, sef Lewis Valentine, un o dri Penyberth wrth gwrs. Synnen i ddim bod chwaraewyr Cymru’n gwybod am yr hanes hwnnw hefyd bellach!
Mae gwlatgarwch Cymreig wedi bod ar yr ymylon am rhy hir ac wedi’i weld gan ormod o’r Cymry fel rhywbeth sy’n ein rhannu. Mae’r tîm pêl-droed wedi llwyddo i ddechrau newid hynny, a hir y parhaed hynny. Gobeithio y bydd gwlatgarwch yn y dyfodol yn rhywbeth naturiol i bawb yng Nghymru a byddwn ni gyd, ta beth ein hiaith ac o ta ble ni’n dod, yn cymryd balchder yn ein gwlad, ei hanes, a’i diwylliant. Yn sgil hynny gobeithio hefyd, i ddyfynnu cân arall gan DI, y gwelwn am genedlaethau mawr i ddod y Cymry yn ‘sefyll ar y byrdde dros hen wlad fy nhade, a dal i ganu yma o hyd!’