Glamorgan Gazette

Dweud eich dweud ar greu treth gyngor decach

MAE’R SYSTEM DRETH GYNGOR YNG NGHYMRU 20 MLYNEDD AR EI HôL HI

-

EFALLAI fod y dreth gyngor yn ymddangos fel bil arall ar restr hir o bethau y mae’n rhaid i chi dalu amdanyn nhw. Ond, mewn gwirionedd, dyma un o’r trethi pwysicaf ar gyfer eich ardal leol.

O ysgolion a gofal cymdeithas­ol i blismona a gwasanaeth­au trafnidiae­th lleol, mae’r dreth gyngor yn helpu i ariannu cannoedd o wasanaetha­u lleol hanfodol sy’n cadw olwynion ein gwlad i droi.

Mae’r dreth gyngor yn cael ei seilio’n rhannol ar y cartref rydych chi’n byw ynddo a phwy arall sy’n byw gyda chi, ac nid yw wedi cael ei diweddaru yng Nghymru ers 20 mlynedd. Felly, mae’r system bellach wedi dyddio ac yn annheg - mae rhai pobl yn talu gormod ac eraill ddim yn talu digon.

Ym mis Tachwedd 2023, lansiodd Llywodraet­h Cymru ymgynghori­ad i ofyn am farn pobl ar ddulliau posib o ailgynllun­io’r system dreth gyngor i’w gwneud yn decach. Nawr, gallwch ddweud eich dweud ar faint o newid sydd ei angen a pha mor gyflym y dylid cyflwyno unrhyw newidiadau.

EICH GWLAD CHI, EICH TRETH CHI

Mae’r system dreth gyngor yng Nghymru wedi’i seilio’n rhannol ar yr eiddo rydych chi’n byw ynddo. Er hynny, nid yw’r ffaith y gallai’r tŷ fod yn werth mwy nawr nag yr oedd 20 mlynedd yn ôl yn golygu y bydd eich bil treth gyngor yn codi’n awtomatig. Dylem gofio bod rhentwyr yn talu’r dreth gyngor hefyd. Nid perchnogio­n tai yn unig sy’n gwneud hynny.

Mewn gwirionedd, ar ôl diwygio’r system dreth gyngor i’w gwneud yn decach, bydd biliau llawer o bobl yn aros yr un fath neu’n gostwng. Mae hyn oherwydd y bydd yr ymarfer ailbrisio yn sicrhau bod yr arian a godir yn gyffredino­l yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddara­f, fel bod y baich treth yn cael ei ddosbarthu’n decach.

Y dyddiad cynharaf y gellid cyflwyno unrhyw newidiadau a gynigir gan Lywodraeth Cymru yw 1 Ebrill 2025. Fodd bynnag, un o ddibenion yr ymgynghori­ad hwn yw canfod pa mor gyflym yr hoffai pobl weld y newidiadau’n digwydd.

PAM MAE’R SYSTEM GYFREDOL YN ANNHEG?

Mae oddeutu 1.5 miliwn o anheddau domestig yng Nghymru sy’n agored i dalu’r dreth gyngor. Ar hyn o bryd, caiff pob eiddo ei osod mewn un o naw band treth, sef A i I, ar sail gwerth eiddo ar 1 Ebrill 2003. Yn Lloegr a’r Alban, mae’r dreth gyngor yn seiliedig ar werth eiddo ym 1991.

Y tro diwethaf i’r dreth gyngor yng Nghymru gael ei diweddaru (sef ar 1 Ebrill 2005), ychwanegod­d Llywodraet­h Cymru fand treth arall (Band I) ar gyfer yr eiddo uchaf ei werth.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, yn asesu gwerth eiddo ac yn gosod pob annedd mewn band treth gyngor. Mae gan bob band gyfradd dreth sy’n gymharol â

Band D, sef cyfeirnod/pwynt canol y system gyfan. Cynghorau lleol sy’n penderfynu ar y tâl a godir ar gyfer Band D bob blwyddyn.

Mae hyn yn caniatáu iddynt wneud penderfyni­adau lleol am swm y dreth gyngor y mae angen iddynt ei godi gan ddinasyddi­on i ariannu gwasanaeth­au, gan olygu bod biliau treth gyngor yn amrywio rhwng ardaloedd lleol. Gall Llywodraet­h Cymru newid y cyfraddau treth ar gyfer pob band drwy basio deddfwriae­th newydd.

Gan fod y system dreth gyngor gyfredol wedi dyddio , mae’n rhoi baich annheg ar y rhai sy’n byw mewn eiddo gwerth is. Ar hyn o bryd, mae’r dreth gyngor a godir ar eiddo ym Mand I deirgwaith a hanner cymaint â Band A, ond mae’r cartrefi yn y band uchaf yn werth naw gwaith cymaint â’r rhai yn y band isaf.

Byddai ymarfer ailbrisio yn galluogi Llywodraet­h Cymru i greu bandiau newydd a dewis cyfraddau treth newydd ar gyfer pob band er mwyn creu treth decach, ac mae un o’r enghreifft­iau posib yn cynnwys bandiau ychwanegol ar waelod a brig y raddfa.

BETH YW’R NEWIDIADAU POSIB?

Er mwyn helpu i wneud y system dreth gyngor yng Nghymru yn decach, mae Llywodraet­h Cymru wedi nodi tri dull posib, ac mae’n gwahodd pobl i ddweud eu dweud ar y dulliau hynny, sef:

Diwygio ar raddfa fach

Ailbrisio eiddo er mwyn gwirio bod prisiadau yn gyfredol, ond cadw’r naw band a’r cyfraddau treth sydd gennym ni ar hyn o bryd. Byddai hyn yn diweddaru’r system, a fyddai’n gam at ei gwneud yn decach, ond ni fyddai’n cynnwys manteision gostwng y dreth gyngor i’r rhai sy’n byw mewn eiddo gwerth is.

Diwygio cymedrol

Ailbrisio ynghyd â diwygiadau i’r cyfraddau treth a godir ar gyfer pob band, i ddosbarthu’r dreth gyngor yn decach. Mae hyn yn golygu y byddai biliau ar gyfer aelwydydd mewn eiddo band is yn gostwng, a byddai biliau ar gyfer y rhai mewn eiddo yn y bandiau uchaf yn codi. Byddai hyn yn mynd i’r afael â natur hen ffasiwn y system gyfredol a hefyd ei natur annheg i raddau.

Diwygio estynedig

Ailbrisio ynghyd â diwygiadau pellach, gan gynnwys bandiau treth ychwanegol a newidiadau i’r cyfraddau treth. Byddai’r dull hwn yn golygu bod nifer y bandiau yn cynyddu o naw i ddeuddeg. Byddai un band yn cael ei ychwanegu ar y gwaelod ar gyfer yr eiddo â’r gwerth isaf yng Nghymru, a byddai dau fand arall yn cael eu hychwanegu ar y brig, ar gyfer yr eiddo drutaf sydd werth dros £1.2 miliwn. Byddai hyn yn fwy o gam pendant tuag at system decach.

BETH FYDD HYN YN EI OLYGU I MI?

Er bod y gwahanol ddulliau yn amrywio o ddiwygio’r system ar raddfa fach i’w diwygio’n sylweddol, er mwyn sicrhau tegwch, nid codi refeniw yw bwriad unrhyw un o’r dulliau a nodir yn yr ymgynghori­ad. Yn gyffredino­l, ni fyddai’r diwygiadau yn arwain at godi mwy o arian yn ei gyfanrwydd.

Os ydych chi’n cael unrhyw fath o ddisgownt neu ostyngiad treth gyngor ar hyn o bryd, ni fydd hyn yn newid o ganlyniad i’r ymgynghori­ad.

Yn ogystal â cheisio gwneud y system dreth gyngor yn decach, mae Llywodraet­h Cymru yn bwriadu cynnal ymarferion ailbrisio bob pum mlynedd, er mwyn sicrhau bod pobl yn talu’r swm cywir o dreth gyngor mewn perthynas â gwerth eu heiddo.

Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle rheolaidd i’r llywodraet­h barhau i adolygu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth er mwyn sicrhau tegwch.

Mae’r ymgynghori­ad hwn hefyd yn cynnwys cynigion i:

• Adolygu disgowntia­u, eithriadau a gostyngiad­au’r dreth gyngor, gan fod Llywodraet­h Cymru wedi ymrwymo i gadw’r disgownt un oedolyn ac i gadw lefel y disgownt ar 25%.

• Sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn haws, fel bod mwy o bobl yn gwybod sut mae’r dreth gyngor yn gweithio a phwy sy’n gyfrifol am ba ran o’r system.

• Creu proses fwy effeithiol ar gyfer apeliadau, gan ei gwneud yn haws ac yn fwy tryloyw.

SUT YDW I’N DWEUD FY NWEUD?

P’un a ydych yn credu bod y dulliau a nodir uchod yn syniad da neu’n credu y gellid eu gwella, mae Llywodraet­h Cymru eisiau clywed gennych.

Drwy lenwi’r ffurflen ymgynghori, gallwch roi eich barn ar y gwahanol ddulliau o ddiwygio’r dreth gyngor, diweddaria­dau rheolaidd i’r dreth gyngor yn y dyfodol, disgowntia­u ac eithriadau, a syniadau’r llywodraet­h ar gyfer creu system dreth gyngor decach i bawb.

Mae gennych tan 6 Chwefror

2024 i rannu eich barn ar y newidiadau sydd dan sylw, a gallwch wneud hynny drwy’r ffurflen ar-lein . Gallwch lawrlwytho’r ffurflen a’i hanfon drwy e-bost at LGFR.Ymgyngoria­dau@llyw.cymru neu ei hanfon drwy’r post.

I gael gwybod mwy am yr hyn mae’r cynigion i newid y dreth gyngor yn ei olygu i chi, yn ogystal â’r nod o greu system dreth gyngor decach i bawb, ewch i wefan Llywodraet­h Cymru www.llyw.cymru/diwygiordr­eth-gyngor

 ?? ?? Cyfle i ddweud eich dweud ar ddiwygiada­u newydd i’r dreth gyngor ledled Cymru (Image: Getty Images)
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddiwygiada­u newydd i’r dreth gyngor ledled Cymru (Image: Getty Images)
 ?? ?? Mae’r dreth gyngor yn helpu i ariannu gwasanaeth­au hanfodol fel ysgolion lleol (Image: Getty Images)
Mae’r dreth gyngor yn helpu i ariannu gwasanaeth­au hanfodol fel ysgolion lleol (Image: Getty Images)
 ?? ?? Bydd y newidiadau a gynigir yn parhau i gefnogi gwasanaeth­au lleol hanfodol (Image: Getty Images)
Bydd y newidiadau a gynigir yn parhau i gefnogi gwasanaeth­au lleol hanfodol (Image: Getty Images)

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom