Carway
Cydymdeimlo Mae Bethel Cawre wedi colli un o aelodau ffyddlon y Capel sef Olive Morgan, Anghorfa. Mae ein cydymdeimlad dwys yn mynd i Sandra a Nigel Stephens a Paul a Keeley Morgan: hen fam-gu i Rachel, Kelsey, Kieran, Lindsey, Sam ac Angharad. Boed i chwi oll dderbyn ein cydymdeimlad dwys yn eich galar. Bydd gwasanaeth cyhoeddus ym Methel, Carwe, heddiw am 2yp.
Capel Bethel Dydd Sul, bydd y Parchedig Geraint Jenkins, Trimsaran yn gwasanaethu am 5yh. Ar ddydd Sul, Ebrill 21m bydd y Maria Evans, Caerfyrddin yn gwasanaethu am 2yp. Bydd yna groeso cynnes i chwi oll ymuno gyda ni.