Carway
Cydymdeimlo Mae Bethel Cawre wedi colli un o aelodau ffyddlon y Capel, sef Mrs Olive Morgan, Anghorfa. Mae ein cydymdeimlad dwys yn mynd i Mrs Sandra a Nigel Stephens a Mr Paul a Keeley Morgan: hen fam-gu i Rachel, Kelsey, Kieran, Lindsey, Sam ac Angharad. Boed i chwi oll dderbyn ein cydymdeimlad dwys yn eich galar. Capel Bethel Dydd Sul, Ebrill 21, bydd Maria Evans, Caerfyrddin yn gwasanaethu am 2yp.Bydd yna groeso cynnes i chwi oll ymuno gyda ni.