Llangennech
Send your Llangennech news to journal.star@mediawales.co.uk
Eglwysi Undebol Llangennech Cynhelir Cymanfa Ganu yng Nghapel Salem ar ddydd Sul, Mehefin 9. Yr arweinydd fydd Trystan Lewis a’r organyddion fydd Ian Lewis ac Allan Fewster. Bydd oedfa’r prynhawn am 2.30 ac oedfa’r hwyr am 6.
Merched y Wawr Er mwyn cefnogi Prosiect y Llywydd Cenedlaethol sef casglu sbwriel a’i ailgylchu, bydd Merched y Wawr yn cwrdd wrth ymyl y Parc ar Heol yr Orsaf nos Iau Mehefin 6ed am 6 o’r gloch. Cofiwch ddod a’ch bagiau casglu sbwriel. Y Wibdaith Flynyddol. Bydd y bws yn gadael Bethesda ar ddydd Sadwrn 15fed o Fehefin am 11 o’r gloch er mwyn cyrraedd bwyty’r Miskin Arms erbyn 12 ac yna ymlaen i’r Bathdy Brenhinol. Cost y daith £35 Croeso
cynnes i bawb. Am fanylion pellach ac I ddewis o’r fwydlen cysylltwch â Jayne Hughes ar 01554 821614.