Carway
Cydymdeimlo Mae ein cydymdeimlad dwys yn mynd i Nigel Stephens a’r teulu wrth golli eu mam sef: Joyce Stephens, o Bontyberem. Boed i chwi oll dderbyn ein cydymdeimlad dwys yn eich galar.
Capel Bethel Dydd Sul, Grffennaf 7, cwrdd ymuno yng Nghapel Noddfa, Pontiets gyda’r Parch Gerald Jones, Llangennech yn gwasanaethu Swper yr Arglwydd am 2yp. Dydd Sul, Gorffennaf 14, bydd y Maria Evans, Caerfyrddin yn gwasanaethu am 2yp. Dydd Sul, Gorffennaf 21, bydd Parchedig Brennig Davies, Pontiets yn gwasanaethu Swper yr Arglwydd am 5yh.
Sul Sbesial 2019 Dydd Sul, Gorffennaf 14 bydd cwrdd y Bedyddwyr a Phresbyteriad Sir Gar ac Annibynwyr Dwyrain Caerfyrddin yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Tywysoges Gwenllïan, Cydweli am 10.30yb. Bydd y casgliad at Fanciau Bwyd Sir Gar ac mae croeso cynnes iawn i bawb.