Wynebu’r gyrrwr a laddodd ei merch
tân yno yn gwisgo menig a swyddog heddlu’n ceisio fy stopio i rhag mynd yn agosach.
“Roedd y car wedi’i orchuddio a tharpolin. Mi welais swyddog heddlu yr oeddwn yn ei hadnabod a dywedais wrthi ‘Lona sy’ na ynte?’ Ddywedodd hi ddim, dim ond edrych arna i, ac roeddwn i’n gwybod, doedd dim angen iddi hi ddweud gair.
“Daeth swyddog cyswllt teuluoedd i ‘ngweld i a helpodd hynny fi’n arw.
“Ar ôl y cynhebrwng es i leoliad y gwrthdrawiad a gweld y marciau adawodd teiars y car wrth iddo sglefrio, a’r man lle trodd y car drosodd. Roedd gen i gymaint o gwestiynau, felly gofynnais am gael gweld Ian Edwards yn y carchar.
“Roedd rhaid i’r cais fynd drwy’r sianelau cywir ac roedd rhaid i Ian Edwards gytuno i ngweld i. Ar y bore y gwnes i ei weld o, mi wnes i eirio fy nghwestiynau yn y ffordd orau i drio darganfod yn union beth ddigwyddodd.
“Mi wnaeth ei gyfarfod o roi cyfle i mi edrych yn ei lygaid o a deud wrtho fo yn union sut o ni’n teimlo. Roedd yn gyfle i mi ddeud wrtho fo pa mor wirion oedd o wedi bod. Roedd yn sgwrs na fuaswn i wedi ei chael ar y stryd. Rwan dwi’n teimlo nad oes ‘na ddim byd dydw i ddim yn gwybod amdano fo, dim cyfrinachau.
“Dw’i wedi cael rhywfaint o dawelwch meddwl o ddweud wrtho fo sut dwi’n teimlo a does ‘na ddim cwestiynau heb eu hateb.
“Y peth anhygoel oedd fy mod i wedi cysgu drwy’r nos am y tro cyntaf ers y ddamwain y noson ar ôl i mi fod yn ei weld o yn y carchar. Roedd cyfiawnder adferol yn wych i mi, ond efallai nad dyma fyddai’r achos i bawb.”
Meddai Winston Roddick: “Dwi’n edmygu Kate yn fawr iawn am y ffordd y gallodd siarad mor huawdl â’r gynhadledd am y profiad torcalonnus o golli Lona dan amgylchiadau mor drasig a sut y gwnaeth ymweld ag Ian Edwards yn y carchar ei helpu.
“Roedd ei stori emosiynol â phwerus yn enghraifft berffaith o gyfiawnder adferol ar waith, h.y. galluogi rhywun sydd wedi dioddef o ganlyniad i drosedd gael rhywbeth cadarnhaol allan o’r broses.