Gemau darbi dros yr ŵyl

North Wales Weekly News - - YOUR GUIDE -

FE fydd S4C yn dar­lledu dwy gêm ddarbi fawr Gor­llewin Cymru rhwng y Gweilch a’r Scar­lets dros y Nadolig a’r Flwyd­dyn Newydd.

Tîm Clwb Rygbi fydd yn Stadiwm Lib­erty ddydd Sad­wrn, 27 Rhag­fyr ac ym Mharc y Scar­lets ar ddydd Sad­wrn, 3 Ion­awr ar gyfer y gemau Guin­ness Pro 12.

Dros gyfnod y Nadolig bydd Clwb Rygbi ar S4C he­fyd yn dar­lledu’r gemau Guin­ness Pro 12 rhwng y Dreigiau a Ze­bre, yn fyw o’r Ei­dal ddydd Sul, 21 Rhag­fyr a’r Gweilch yn er­byn Ul­ster nos Lun, 22 Rhag­fyr.

I ddi­lyn­wyr y bêl gron, bydd S4C yn dan­gos y gêm rhwng Prestatyn a Ban­gor yn fyw yn Clwb ddydd Sul, 21 Rhag­fyr a bydd Sgo­rio ar nos Lun, 22 Rhag­fyr yn canolb­wyn­tio ar gemau’r pen­wyth­nos yn Uwch Gyn­ghrair Cymru Cor­bett Sports ac uchaf­b­wyn­tiau gemau La Liga. Gwe­fan: s4c.co.uk Ar alw: s4c.co.uk/clic

Newspapers in English

Newspapers from UK

© PressReader. All rights reserved.