DYDD GWENER
HUW LLYWELYN DAVIES: TU ÔL I’R MEIC S4C 8.25
BU Huw Llywelyn Davies yn llais cyfarwydd i wylwyr a gwrandawyr rygbi Cymru ers 35 mlynedd. Sylwebodd ar dros 300 o gemau rhyngwladol yn ogystal â gweithio ar amrywiaeth o raglenni ar radio a theledu, o’r Eisteddfod i Dechrau Canu Dechrau Canmol. Mewn portread gonest a chynhwysfawr, mae’r rhaglen hon yn olrhain gyrfa ddisglair Huw ac yn rhoi darlun unigryw o’r gŵr y tu ôl i’r meic.