DYDD IAU
NADOLIG BRYN TERFEL, S4C, 8.25PM
HENO ar S4C, cewch gyfle i fwynhau gwledd o gerddoriaeth yr ŵyl yng nghwmni rhai o sêr disgleiriaf Cymru. Bydd Bryn Terfel a’i westeion yn perfformio carolau i gyfeiliant offerynnau gwerin yn amgueddfa hudolus Sain Ffagan. Nes ymlaen am 9.30pm, bydd Only Men Aloud yn perfformio amrywiaeth eang o gerddoriaeth dan arweiniad Tim Rhys-Evans.