North Wales Weekly News

Cyflwyno gwaith T Gwynn Jones i’r Brifysgol lle bu’n Athro

-

MAE Adran y Gymaeg, Prifysgol Aberystwyt­h, yn byw unwaith eto yng nghwmni un o aelodau mwyaf adnabyddus ei staff.

Dysgodd Thomas Gwynn Jones (1871 – 1949) yn yr adran am 34 o flynyddoed­d rhwng cael ei benodi’n ddarlithyd­d yno yn 1913 a’i ymddeoliad yn 1937. Fe’i penodwyd yn Athro Llên yn 1919.

Diolch i haelioni ei ŵyr, Mr Emrys Wynn Jones, a weithredai fel cofrestryd­d i Coleg y Brifysgol Aberystwyt­h, rhoddwyd llawer o lyfrau’r Athro Jones, gan gynnwys copïau o’i waith ei hun, i’r adran i’w defnyddio gan staff a myfyrwyr.

Wrth ddiolch i Mr Jones am ei rodd, dywedodd Dr Robin Chapman, pennaeth gweithredo­l yr adran: “Roedd Thomas Gwynn Jones yn academydd nodedig ac, wrth gwrs, yn llenor o fri.

“Gellid dadlau bod hanes llên yr ugeinfed ganrif yn cychwyn gydag ef.

“Teimlad rhyfeddol, felly, yw dal copïau personol yr Athro o waith rydw i wedi’i ddarllen gyda myfyrwyr drwy gydol fy ngyrfa, a llawer ohonyn nhw’n dwyn ei lofnod.

“Mae’r casgliad yn cynnwys cyfran helaeth hefyd o’i lyfrgell academaidd ei hun.

“Dri chwarter canrif a mwy ers iddo ymddeol o Aberystwyt­h, rhai o lyfrau’r Athro Jones,

wedi dychwelyd adref, fel petai.”

Roedd T Gwynn Jones yn llenor amryddawn a wnaeth gyfraniad pwysig iawn i lenyddiaet­h Gymraeg, ysgolheict­od Cymreig ac astudiaeth­au llên gwerin yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Yr oedd hefyd yn gyfieithyd­d medrus o’r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg.

Cafodd ei eni yn y Gwyndy Uchaf yn yr hen Sir Ddinbych a’i gladdu ym mynwent Heol Llanbadarn, Aberystwyt­h.

 ??  ?? Dr Robin Chapman (chwith) a Robin Williams, myfyriwr Cymraeg a Hanes Cymru yn yr ail flwyddyn yn darllen un o lyfrau T Gwynn Jones.
Dr Robin Chapman (chwith) a Robin Williams, myfyriwr Cymraeg a Hanes Cymru yn yr ail flwyddyn yn darllen un o lyfrau T Gwynn Jones.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom