Gwobr genedlaethol i gynllun tai yn Eryri
aros yn eu cymuned, sy’n helpu’r gymuned i barhau i fod yn hyfyw ar gyfer y dyfodol.
“Rydym yn moderneiddio tai cymdeithasol. Nid yw darpariaeth o’r fath wedi bod ar gael i gymunedau ers gormod o amser, ac mae hyn wedi gwella’r safon ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r prinder tai fforddiadwy, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, yn golygu bod pobl yn gorfod symud i ffwrdd i gael gwaith.
“Mae’n rhaid i ni dorri’r cylch dieflig hwn a sicrhau ein bod yn gweithio i’n cymunedau, drwy ddarparu tai a galluogi pobl i aros yn eu cymunedau ac yna eu helpu i ddod o hyd i waith.”
Ymhlith y tenantiaid ym Maes y Waen mae Rachel Wainwright, mam i dri o blant, sydd wedi’i geni a’i magu ym Mhenmachno.
Dywedodd ei bod wrth ei bodd gyda’i chartref newydd, ac y byddai’r teulu wedi gorfod gadael y pentref hebddo, oherwydd bod y tŷ rhent yr oeddent yn byw arno ar werth.
Esboniodd Rachel: “Roedd yn bwysig iawn ein bod yn gallu aros ym Mhenmachno. Mae fy nheulu i gyd yn byw yma, ac maent yn gofalu am y plant pan wyf yn gweithio.
“Mae’r plant wedi arfer byw yma, ac mae ganddynt lawer o ffrindiau yn y pentref, felly mae’n braf iawn eu clywed yn chwarae gyda’u ffrindiau ar y stryd. Nid ydynt wedi gallu gwneud hynny o’r blaen, ac mae hynny’n wych.
“Mae’r tŷ yn wych, mae’n hyfryd. Ni fyddwn byth wedi gallu cael rhywbeth fel hyn heb Cartrefi Conwy.
Yn ôl Brian Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Cartrefi Conwy, mae’r datblygiad yn dynodi dechrau pennod newydd i’r sefydliad.
Meddai: “Y datblygiad ym Maes y Waen yw’r cyntaf o nifer o ddatblygiadau newydd sydd ar y gweill. Rydym yn cynllunio adeiladu llawer mwy o dai fforddiadwy yn y blynyddoedd nesaf.”
Dywedodd Swyddog Galluogi Tai Gwledig Cyngor Conwy, Buddug Williams: “Mae’n wych gweld datblygiad mewn ardal mor wledig yn llwyddo i ennill gwobr mor nodedig.”