North Wales Weekly News

Canfod tynged Tanwen

-

MAE’R cyfres boblogaidd Gwaith/Cartref yn parhau nos Sul, ac ym mhennod yr wythnos hon, cawn ganfod tynged Tanwen, y disgybl ysgol ddeunaw oed gafodd berthynas gyda’i hathro, Wyn.

Y tro diwethaf i ni weld Tanwen, roedd hi’n gorwedd yn anymwybodo­l ar lawr ystafell gwesty, wedi ffrwgwd gyda Wyn.

Ond beth ddigwyddod­d i Tanwen? Dyna’r cwestiwn y mae’r actor, Richard Elis, 40, sy’n portreadu Wyn, yn ei wynebu’n ddyddiol bron.

Ychydig ddyddiau yn ôl, cafodd Richard sioc wrth i adeiladwyr oedd yn gweithio ger ei gartref yng Nghyncoed, yng Nghaerdydd weiddi ‘Ble mae Tanwen’?

“Daw beth ddigwyddod­d i Tanwen fel sioc i bobl. Erbyn hyn mae’r gynulleidf­a yn dilyn straeon eraill y gyfres, ac felly mae’r bennod nesaf yn mynd i greu mwy o effaith,” meddai.

Mae Richard Elis wedi bod yn por- treadu Wyn, yr athro Cymraeg yn Gwaith/Cartref ers pum mlynedd bellach, ac mae wedi mwynhau chwarae cymeriad sy’n hollti barn y gwylwyr.

“Mae e’n gymeriad dwyochrog, mae’r rhan fwyaf o’r athrawon yn licio fe, er eu bod nhw’n meddwl ei fod e’n dipyn o glown. Ond mae gyda fe’r ochr dywyll ‘ma, lle mae’n hoffi’r ffaith ei fod yn gallu teimlo’n bwerus yng nghwmni’r disgyblion,” dywed Richard.

Daw’r gwylwyr i wybod y gwir am dynged Tanwen, tra bo Wyn yn mwynhau cyfnod hapus yn ei fywyd. Mae ganddo gariad newydd o’r enw Zara, sydd yn hŷn na Tanwen. Mae Zara hefyd yn boblogaidd gyda’i fam ormesol, Meryl, ac maen nhw wedi dod yn ffrindiau mynwesol. Gwaith/Cartref : S4C, nos Sul 9pm, English subtitles available, also repeated on Tuesaday with on-screen English subtitles

 ??  ?? A yw Wyn (Richard Elis) yn gwybod rhywbeth am ddiflaniad Tanwen?
A yw Wyn (Richard Elis) yn gwybod rhywbeth am ddiflaniad Tanwen?

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom