Cynnyrch ysgol yn plesio Jamie Oliver
plant yn dangos i ddisgyblion eraill sut i wneud y siytni, fel bod pawb yn dysgu sgiliau newydd.
“Ni ydi’r ysgol gyntaf yng Nghymru i ymuno efo prosiect addysg Jamie’s Kitchen Garden, sy’n cynnwys adnoddau ar lein i staff dysgu i helpu plant ddysgu sut i dyfu bwyd a choginio prydau maethlon.
“Roedden ni mor falch pan yrrodd Jamie neges i ni ar Twitter, yn dweud ei fod o’n meddwl bod y siytni’n ‘hyfryd’, ac wedi ychwanegu sws - roedd hynny’n gwneud gwahaniaeth o ddifri i’r plant.
Bydd yr elw o werthu’r siytni a’r wyau ym Modnant yn mynd yn ôl i gyllideb addysg yr ysgol.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Canolfan Bwyd Cymru Bodnant, Chris Morton: “Rydan ni eisiau dangos y gorau o gynnyrch Cymru – ac mae hwn yn un o’r rhai gorau rydw i wedi’i flasu erioed, yn bendant gystal â’r rhai eraill y byddwn ni’n eu cael yma’n rheolaidd.
“Mae’n wirioneddol bwysig cael plant i ddeall sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, beth sy’n digwydd o’r cae trwodd i’r gegin ac wedyn i’r siop.
“Mae angen llongyfarch Mr Jones am ei agwedd tuag at addysg a maeth – rydw i’n edrych ymlaen at ei weld o a’r plant yn ôl yn siop fferm Bodnant efo mwy i’r siytni.”
Ymysg y plant ym Modnant yn annog siopwyr i flasu’r siytni roedd Nel Pethig, disgybl Blwyddyn Chwech, 11 oed, o Fae Colwyn.
Dywedodd Nel: “Mi wnes i fwynhau bod ym Modnant heddiw yn fawr ac roeddwn i’n hapus iawn wrth glywed fy mod i gael dod yma. Rydw’n falch iawn o hyn.
A dywedodd disgybl arall o Flwyddyn Chwech, Ieuan Lancaster, deg oed, o Landudno: “Roedd o’n llawer o hwyl i’w wneud a thorri’r nionod yn ddarnau, ac mae blas da arno. Mae’n gyffrous iawn bod Jamie Oliver wedi gyrru tweet amdanom ni gan ei fod o’n seren fawr.”