Plant yn plannu syrcas o liw
MAE plant ysgol â’u bysedd gwyrdd wedi bod yn brysur yn llonni ystâd o dai.
Mae’r disgyblion o Ysgol Tan y Marian ac Ysgol Penmaenrhos wedi helpu i blannu mwy na 10,400 o fylbiau cynnar o amgylch Parc Peulwys yn Llysfaen er mwyn ychwanegu sblash mawr o liw i’r ardal y Gwanwyn nesaf.
Trefnwyd y Plannu Mawr gan gymdeithas tai Cartrefi Conwy fel rhan o raglen barhaus i adfywio a gwella’r amgylchedd.
Ymunodd tenantiaid a chwaraewyr o glwb Rygbi Gogledd Cymru (RGC) gyda’r plant ysgol i blannu’r mynydd o fylbiau.
Dywedodd Swyddog Datblygu Amgylchedd Cartrefi Conwy, Matt Stowe, fod y rhywogaethau o fylbiau wedi cael eu dewis yn ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn blodeuo’n gynnar ac felly bydd y blodau’n marw yn ôl cyn i waith torri glaswellt y gwanwyn gychwyn.
Meddai: “Rydym wedi dewis pedwar rhywogaeth o saffrwm, eirlysiau, clychau’r gog, cilia a fritillaria ochr yn ochr â Chennin Pedr. Rwy’n credu bod pawb sy’n ymwneud â’r prosiect yn awyddus i weld y sioe pan ddaw’r gwanwyn - mae’n S mynd i edrych yn ogoneddus.
“Gobeithio y byddwn yn gweld cynnydd yn y gwenyn, gloÿnnod byw a bywyd gwyllt arall sy’n ymweld â’r ardal gan wrth i’r blodau blodeuo
“Y plannu bylbiau yw’r darn olaf yn y gwaith o adfywio amgylchedd ystâd Parc Peulwys. Rwy’n credu ein bod wedi cyflawni ein gweledigaeth o greu cymuned i fod yn falch ohoni ac rwy’n gwybod bod llawer o denantiaid a phreswylwyr wrth eu boddau gyda’r ffordd y mae’r ystâd yn edrych.
“A phan fydd y bylbiau yn blodeuo, mae’n mynd i edrych hyd yn oed yn fwy trawiadol a hyd yn oed yn fwy croesawgar.”
Daeth llu o ddisgyblion Ysgol Tan Y Marian ac Ysgol Penmaenrhos allan yn eu hesgidiau glaw er mwyn helpu i blannu’r bylbiau.
Dywedodd pennaeth Ysgol Tan Y Marian Rhian Jones: “Mae wedi bod yn ffordd wych o gael y plant i gymryd rhan a helpu i ddatblygu eu hysbryd cymunedol.”
Adleisiwyd y teimlad gan Lisa Pixton, pennaeth Ysgol Penmaenrhos: “Rwy’n credu ei fod yn rhoi gwir ymdeimlad o falchder yn y gymuned lle maent yn byw.”