North Wales Weekly News

Trem yn ôl ar rhai o gemau gorau Huw

-

BLE roeddech chi pan enillodd Cymru’r Gamp Lawn yn 2005? Neu pan drechodd y Crysau Cochion y Springboks yng ngêm gyntaf Stadiwm y Mileniwm ym 1999? A beth wnaethoch chi i ddathlu ar ôl i Gymru guro Lloegr 30-3 yn 2013?

Mewn rhaglen arbennig, bydd y sylwebydd a’r darlledwr Huw Llywelyn Davies yn pori drwy’r archif i ddethol gemau mwyaf cofiadwy ein tîm cenedlaeth­ol yng nghwmni nifer o chwaraewyr adnabyddus.

Bu Huw Llywelyn Davies yn sylwebydd ar gemau rygbi cenedlaeth­ol, clwb a rhanbartho­l Cymru ers dechrau S4C ym 1982 tan y llynedd. O’r Goron Driphlyg ym 1988 i’r Gamp Lawn yn 2005, chwalu Lloegr i gipio’r Bencampwri­aeth yn 2013 a Ffeinal Cwpan y Byd yn Ne Affrica ym 1995, mae Huw yn mynd â ni ar daith gyffrous ac emosiynol drwy’r llon a’r lleddf.

“Ar ôl sylwebu ar gemau rygbi yn y Gymraeg am dros 30 mlynedd, mae sawl gêm yn aros yn y cof, nid yn unig o ran safon y chwarae a chyffro’r gêm ei hunan, ond o ran pwysigrwyd­d yr achlysur,” meddai Huw sy’n wreiddiol o Waun Cae Gurwen yn Nyffryn Aman.

“Roedd rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd ym 1995 yn brofiad bythgofiad­wy. Roedd Nelson Mandela wedi ei ethol yn arlywydd y flwyddyn gynt, ac fe wisgodd grys y Springboks – gweithred symbolaidd a phwerus iawn. Amseru yw popeth ym myd rygbi. A bu’n rhaid i mi aros 26 mlynedd fel sylwebydd ar gemau i gael cyfle i sylwebu ar gêm y Gamp Lawn yn 2005. Dyna i chi wefr a gwir anrhydedd, yn enwedig gan i Gymru ennill y Gamp Lawn deirgwaith yn ystod yr ‘Oes Aur’ yn y 1970au.

“Un o’r gemau gorau yn fy marn i oedd y gêm rhwng Ffrainc a Seland Newydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 1999 – Jonah Lomu yn hyrddio drwy’r Ffrancwyr yn yr hanner cyntaf, a Ffrainc yn dawnsio o gwmpas y crysau duon yn yr ail hanner!” Goreuon Rygbi Huw Llywelyn Davies: S4C, nos Iau 9.30pm

 ??  ??
 ??  ?? Garry Monk (Richard Lynch)
Garry Monk (Richard Lynch)

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom