Heno’n darlledu’n fyw o Gaernarfon
YR wythnos nesa, bydd rhaglen gylchgrawn nosweithiol S4C, Heno, yn darlledu’n fyw o stiwdio yng Nghaernarfon.
O ddydd Llun, 9 Chwefror hyd ddydd Iau, 12 Chwefror, bydd Elin Fflur yn croesawu gwylwyr i ganolfan Galeri yn y dref, yn cwrdd â gwesteion arbennig ac yn clywed straeon o ledled Cymru.
“Mae’n braf iawn cael dod â’r stiwdio i Gaernarfon am wythnos,” meddai Elin.
“Er ein bod ni wedi cyflwyno rhaglenni o’r Gogledd yn y gorffennol, dyma’r tro cyntaf i’r stiwdio adael Llanelli am y Gogledd, ac mae’r cwbl yn gyffrous iawn,” meddai’r cyflwynydd a’r gantores o Langristiolus, Ynys Môn.
“Mae hefyd yn gyfle i’n gwylwyr yn y Gogledd gael bod yn rhan o’n rhaglen sti- wdio, ac mae croeso iddynt biciad draw i weld sut mae’r cyfan yn dod at ei gilydd.
“Mae’r Galeri hefyd yn dathlu 10 mlynedd eleni, felly mae’n mynd i fod yn wythnos wych o sgwrsio a dathlu ac ambell i gân. Dewch draw, mae ‘na groeso cynnes yn eich disgwyl!” meddai Elin.
Bydd Gerallt Pennant hefyd ar grwydr yn y Gogledd i ganfod y straeon mwyaf ar lawr gwlad. “Mae wastad lle i ddiolch i’n cynulleidfa am fod mor gefnogol i’r rhaglen dros y blynyddoedd ac am eu cyfraniad i’n harlwy dyddiol. Dyma raglen sy’n agos iawn at y bobl a nhw a’u straeon yw gwir sêr Heno”, meddai Gerallt. Heno: S4C, Llun-Gwener, 7pm