Gemau rhyngwladol Cymru Dan 20 yn fyw ar S4C
FE fydd S4C yn darlledu tair o gemau byw Cymru Dan 20 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dan 20, gan ddechrau gyda gêm Cymru Dan 20 v Lloegr Dan 20, yn fyw ac ecsgliwsif o Barc Eirias, Bae Colwyn nos Sadwrn, 7 Chwefror.
Gareth Charles a chyn gapten Cymru Gwyn Jones fydd yn sylwebu gyda’r ddau gyn flaenwr rhyngwladol Dafydd Jones a Deiniol Jones yn dadansoddi’r chwarae. Yr un tîm fydd yn cyflwyno’r Clwb Rygbi Rhyngwladol:Yr Alban Dan 20 v Cymru Dan 20 o Netherdale, Galashiels nos Wener, 13 Chwefror.
Bydd trydedd gêm Cymru yn y bencampwriaeth hefyd i’w gweld yn fyw ar S4C – yn erbyn Ffrainc yn Stade Jules Ribert, SaintGaudens nos Sadwrn, 28 Chwefror. Bydd dwy gêm arall y bencampwriaeth – yn erbyn Iwerddon ar Nos Wener, 13 Mawrth ac yn erbyn yr Eidal ar Nos Wener 20 Mawrth – i’w gweld yn fyw ar BBC Cymru Wales.
“Mi fydd gêm agoriadol y bencampwriaeth yn erbyn Lloegr yn dipyn o her i fechgyn Cymru gyda Lloegr wedi ennill Pencampwriaeth y Byd ddwywaith yn olynol – yn 2013 a’r llynedd,” meddai Deiniol Jones.
“Ond mi fydd tîm Cymru yn awyddus iawn i dalu’r pwyth yn ôl am y grasfa gawson nhw y llynedd gan Loegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, pan gollodd Cymru o drigain pwynt.
“Mae system datblygu chwaraewyr Lloegr gystal ag unrhyw un yn y byd ac mae’r nifer o chwaraewyr sydd ar gael i Loegr hefyd yn fantais sylweddol.” Clwb Rygbi Rhyngwladol: Cymru Dan 20 v Lloegr Dan 20 (Wales U20 v England U20), S4C, nos Sadwrn, 7.15pm. English commentary on red button