Dagrau o lawenydd yn ei chartref newydd
ROEDD mam i ddau blentyn yn crïo dagrau o lawenydd wedi iddi symud i gartref sydd yn llai ac yn eco-gyfeillgar.
Sonya Pritchard yw un o denantiaid cyntaf datblygiad o naw tŷ a godwyd gan gymdeithas tai Cartrefi Conwy yn Ffordd Maesdu, Llandudno ar gôst o £1 miliwn.
Mae’r gogyddes rhan amser wedi symud allan o’i chartref yn Jackson’s Court, Llandudno ac wedi ymgartrefu mewn tŷ dwy ystafell wely – gynt roedd hi beunydd mewn traffethion ariannol wrth geisio gofalu am arian ar gyfer y rhent a’r gwresogi.
Fe ddaeth y symud i eiddo llai ar amser ffodus i Sonya gan ei bod yn wynebu gwaeth hunllef o fis Gorffennaf ymlaen – bryd hynny byddai’n rhaid iddi ddechrau talu treth ystafell wely ar ei hen gartref.
Gwnaed y datblygiad yn bosibl trwy bartneriaeth rhwng Cartrefi Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, roedd hyn yn ei gwneud yn haws sicrhau arian ychwanegol.
Yn ogystal â sicrhau bod y tai wedi eu hinsiwleiddio’n dda, mae cynllun Llwyn Rhianedd wedi gosod paneli solar ar y tô a chaiff dŵr glaw ei gasglu mewn tanc a’i ddefnyddio i ddwrlifo’r toiledau ar y llawr gwaelod.
Yn ôl Cartrefi Conwy, mae’r tai wedi eu dylunio i fod yn gartrefi am oes yn ogystal â galluogi rhai tenantiaid i symud i gartrefi mwy addas.
Ni allai Sonya gredu ei lwc pan glywodd ei bod yn cael tenantiaeth tŷ newydd sbon yn Llwyn Rhianedd.
Dywedodd: “Mae gen i ddau o blant. Mae fy mab, Christian, sydd yn 14 oed, yn byw gartref efo fi ac yn dal yn yr ysgol. Mae fy merch, Jade, 22 oed, yn astudio i fod yn nyrs ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl.
“Adeg gwyliau yn unig y bydd hi’n dod adref, ond bydd yn graddio eleni ac yn chwilio am gartref iddi ei hun.
“Roeddwn i bob amser yn crafu am arian ac yn gorfod benthyca arian ar gyfer y nwy neu i roi bwyd ar y bwrdd.
“Fyddai gen i byth geiniog i’m enw a byddwn yn gorfod cymryd unrhyw waith rhan amser y gallwn ei gael er mwyn cael dau ben llinyn ynghŷd.
“Fedrai ddim disgrifio pa mor hapus ydwi – methu coelio’r peth – rydwi wedi bod yn crïo o lawenydd.”