Caneuon o’r enaid o daleithiau’r de
gerddoriaeth. Rwyf wrth fy modd gyda geiriau a gwthio’r ffiniau i weld faint o ystyr sydd ymhlyg yn y geiriau hynny.
“Mae’n debyg fy mod wedi cael fy nylanwadu gan Bob Dylan, Robert Frost, a hyd yn oed Cat Stevens a gyfansoddai ganeuon yn fyrfyfyr.
“Rwy’n hoff o ddefnyddio geiriau a gweld pa mor agos y galla i gysylltu ag enaid rhywun. Fel cyfansoddwr mae’n ffordd dda i helpu pobl i wrando ar ganeuon sy’n dweud rhywbeth, sydd â neges am ddynoliaeth.”
“Dyna un o’r rhesymau pam yr wyf yn hoffi mynd i’r Deyrnas Unedig. Wrth ddilyn llwybr cerddoriaeth werin sylweddolais, waeth pa mor hen oedd cerddoriaeth perfeddion De America, fod y llwybr hwnnw’n arwain i’r Deyrnas Unedig lle mae traddodiadau gwerin sydd hyd yn oed yn hŷn.
“Rwy’n teimlo fy mod yn dysgu cymaint yn y Deyrnas Unedig am ddiwylliant a cherddoriaeth. Rwy’n hoffi meddwl fy mod yn mynd â rhan o berfeddion De America gyda mi ac yn dod â rhywbeth yn ôl adref ar ôl cael fy ysbrydoli gan fy mhrofiadau.”
“Ar ôl rhyddhau tair record, gyda’r olaf – The Moorings – wedi ei henwebu am wobr Grammy, a oedd yn golygu llawer i mi, rwy’n teimlo y dylwn i deithio llai ar ôl yr haf er mwyn gorffen y caneuon sydd ar eu hanner, sy’n dal yn fy mhen.
“Rwy’n teimlo’r angen i ychwanegu deunydd newydd at fy nghasgliad o ganeuon a chanu am fwy o straeon am fywyd ac emosiynau pobl. Ond i ddechrau, mae angen i mi ddilyn yn llwybr sy’n arwain at fwy o wreiddiau’r traddodiad gwerin a bydd hynny’n golygu bod angen oedi yn Llangollen.”
I archebu tocynnau ewch i’r wefan: international-eisteddfod.co.uk