North Wales Weekly News

Storm o fysedd y cŵn

-

UN o ganlyniada­u annisgwyl y stormydd a ddioddefod­d Plas Tan y Bwlch ym mis Chwefror y llynedd, yw’r ffrwydrad mawr o fysedd y cŵn sydd wedi ymddangos yn y gerddi Fictoraidd.

Brodor o Ynysoedd Prydain yw Bysedd y Cŵn, y Digitalis purpurea, ac mae’n tyfu’n dda mewn pridd sydd wedi ei aflonyddu neu yn yr awyr agored, sef yr union beth sydd wedi digwydd ym Mhlas Tan y Bwlch, Canolfan Parc Cenedlaeth­ol Eryri ym Maentwrog.

Ym mis Chwefror 2014, difrodwyd yn helaeth rannau o Erddi a Thirwedd Restredig Gradd II Hanesyddol y Plas pan chwipiodd stormydd garw, gan gynnwys gwyntoedd dros 100m.y.a. gornel ogledd-orllewin Cymru. O ganlyniad, mae hadau bysedd y cŵn, a fu’n segur am flynyddoed­d am fod yr ardd yn rhy gysgodol, yn sydyn yn cael gweld golau’r haul wedi i’r coed ddisgyn a’r pridd symud wrth i’r gwaith clirio fynd rhagddo.

Dywedodd Andrew Oughton, Pennaeth Busnes Plas Tan y Bwlch,

“Mae hi wir yn olygfa syfrdanol. Mae’n rhaid bod miloedd o’r blodau pinc-borffor hyn ar hyd a lled yr ardd ac mae’n edrych yn hollol hyfryd.”

Mae’r gwaith o adfer ac ail-blannu’n yr ardd bellach wedi dechrau, ond bydd yn cymryd hyd at bum mlynedd i’w gwblhau. Mae cannoedd o blanhigion a choed newydd wedi eu plannu eisoes, ond mae gweld cymaint o fysedd y cŵn yn y gerddi wedi bod yn syndod i bawb.

Mae’r gerddi ar agor bob dydd o 10am-5pm, a’r ystafell de o 11am6pm.

 ??  ?? Gwledd flodeuog
Gwledd flodeuog

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom