Lliw a llawenydd Llangollen ar S4C
ERS bron i 70 o flynyddoedd mae Llangollen wedi bod yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer canu corawl, dawnsio a chystadlu offerynnol. A bydd S4C yn cynnig pecyn o raglenni o Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen unwaith eto eleni o nos Fawrth, 7 Gorffennaf i nos Sul, 12 Gorffennaf.
Morgan Jones ac Elin Llwyd fydd yn cyflwyno’r rhaglenni dyddiol am 12pm yng nghwmni tîm o arbenigwyr fydd yn trafod y prif gystadlaethau.
Alwyn Humphreys fydd yn sylwebu ar y digwyddiadau yn y Pafiliwn, gyda Branwen Gwyn yn darparu sylwebaeth Saesneg ar y botwm coch neu drwy fynd i’r ddewislen iaith.
Gyda’r nos, Nia Roberts a Trystan Ellis-Morris fydd yn bwrw golwg yn ôl dros ddigwyddiadau’r dydd gan gynnwys y prif gystadlaethau a’r bwrlwm o gwmpas y maes ac ar strydoedd y dref.
Bydd plant a phobl ifanc hefyd yn gallu ymuno yn yr hwyl gyda rhaglenni ar Stwnsh o ddydd Mawrth hyd ddydd Iau.
Sefydlwyd yr Eisteddfod Ryngwladol fel modd o hyrwyddo dealltwriaeth fyd-eang a chynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf ym 1947.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod Eilir Owen Griffiths: Mae’n bwysig dal hud Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel bod pobl sy’n methu dod yma yn gallu mwynhau’r ŵyl yngng Nghymru a’r DU ar S4C, ac c ar-lein drwy’r byd ar Llangollen.tv ac S4C.cymru.” Llangollen 2015 : S4C, Mawrth – Sul, darllediadau byw ac uchafbwyntiau – amseroedd yn amrywio