Dawn naturiol i drin cŵn defaid
gweithio yma.
“Mae’n anhygoel gan ein bod yn defnyddio trelar echel ddwbl Ifor Williams ar yr ystad, a phe bai gen i bunt am bob mamog ac oen rydw i wedi eu llwytho ar y cerbyd – byddwn yn ddyn cyfoethog iawn!”
Mae’r seren ifanc Rhion Owen, 13 oed, yn dod o Benysarn, Ynys Môn, ac yn ddisgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Bu Rhion yn cystadlu dros Gymru yn y gystadleuaeth iau a dywedodd ei fod wedi mwynhau cymryd rhan yn One Man and His Dog.
Dywedodd: “Roedd yn anodd iawn. Mi wnaeth Ross, fy nghi, sy’n saith oed, gydio yn un o’r mamogiaid a oedd yn dipyn o hunllef ac mi gollais lawer o bwyntiau oherwydd hynny. Roeddwn yn nerfus iawn o flaen y camerâu.
“Rwy’n byw ar fferm fy nhaid a phan nad ydw i’n yn yr ysgol rwy’n gofalu am 250 o ddefaid.
“Dechreuais weithio gyda chŵn defaid rai blynyddoedd yn ôl ac rwy’n mwynhau’r gwaith yn arw. Dyma beth rwyf am ei wneud. Rwy’n gweithio gyda fy hyfforddwr Gwyn Owen.”
Dywed Gwyn Owen, cyn-brifathro a gafodd ei fagu ac sy’n dal i fyw ar fferm, bod gan Rhion ddawn naturiol i drin cŵn defaid, ac y bydd yn siŵr o ennill llawer o gystadlaethau yn y dyfodol.
Meddai: “Enillodd Rhion gystadleuaeth Agored Cymru am y tro cyntaf yn 13 oed ac ef yw’r cyntaf erioed yng Nghymru i wneud hynny.
“Doedd y profion yn y Waun ddim yn hawdd, ond doedd dim disgwyl iddyn nhw fod, ac roedd y prawf trelar yn arbennig o anodd.”