North Wales Weekly News

Joe yn rhoi cân i ddiolch am gefnogaeth

-

PERFFORMIO­DD y canwr Joe Woolford yn fyw i denantiaid cymdeithas tai i ddiolch iddynt am eu cefnogaeth yn ystod ei gyfnod cyffrous yn un o’r prif sioeau talent ar y teledu.

Canodd Joe Woolford, a wnaeth argraff fawr ar y rhaglen deledu boblogaidd The Voice ar BBC 1, ychydig o ganeuon adnabyddus wrth iddo gloi Diwrnod Allan Mawr Cartrefi Conwy.

Daeth dros 700 o denantiaid Cartrefi Conwy o bob cwr o’r sir i fwynhau pnawn o adloniant o’r radd flaenaf ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn.

Roedd Joe, sy’n 20 oed, yn falch o’r cyfle i ganu yn y digwyddiad er mwyn diolch i gymaint o gefnogwyr yr ardal am bleidleisi­o iddo yn ystod ei siwrnai epig yn The Voice yn gynharach eleni.

O ganlyniad i’r holl bleidleisi­au gan y cyhoedd yn ei ardal enedigol yng Ngogledd Cymru, llwyddodd i gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

“Cefais gymaint o gefnogaeth gan bobl yr ardal hon yn The Voice nes fy mod yn benderfyno­l o fod yma heddiw i roi rhywbeth yn ôl iddynt drwy ganu iddynt,” meddai.

“Un o’r caneuon a berfformia­is oedd Jealous gan Labrinth, cân a genais yn y rownd gyn-derfynol a gobeithio ei bod yn golygu cymaint iddyn nhw ag y mae i mi.”

Dywedodd Joe hefyd mai un o’r digwyddiad­au amlycaf y bu’n canu ynddo ers i raglen The Voice ddod i ben yn Ebrill, oedd y cyngerdd i gefnogi’r apêl er cof am Elen Meirion, yr athrawes boblogaidd a fu farw’n drasig yn 2012, a hithau ond yn 43 oed. Bu’n ei ddysgu yn ei ysgol gynradd yn Rhuthun ac wedi ei marwolaeth lansiwyd ymgyrch genedlaeth­ol i hybu pobl i roddi organau yng Nghymru.

Mae Cronfa Elen yn cael ei harwain gan ei brawd a’r tenor Rhys Meirion, a hyd yma codwyd miloedd o bunnoedd.

“Yn eithaf diweddar bûm yn canu yn Cerddwn Ymlaen, cyngerdd gyda Rhys Meirion a ddarlledwy­d ar S4C, ac a gododd swm sylweddol o arian i Gronfa Elen,” meddai Joe.

“Roeddwn yn adnabod Elen yn dda iawn oherwydd bu’n fy nysgu yn Ysgol Pen Barras yn Rhuthun.

“Roedd yn ferch hyfryd ac roedd mor drist iawn clywed am ei marwolaeth.

“Chwaraeodd ran fawr yn fy mywyd yn fy ysgogi pan oeddwn yn ifanc iawn trwy ddweud ei bod yn gwybod fy mod yn gallu canu.

“Roeddwn yn gwerthfawr­ogi hynny’n fawr.”

Ar ddiwedd y perfformia­d, daeth Andrew Bowen, Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, ar y llwyfan i gyflwyno siec o £250 iddo tuag at Gronfa Elen.

Ymysg yr uchafbwynt­iau eraill oedd reslo, dawnsio stryd, cestyll gwynt, peintio wynebau, cerddwyr stiltiau, modelu balŵns, jyglo gyda thân a chlown digrif o’r enw Harley.

Y tu mewn i ganolfan The Barn ym Mharc Eirias roedd hyd yn oed mwy o weithgared­dau, sesiynau aerobig mewn cadeiriau.

Roedd amrywiaeth o gyngor a chyfarwydd­yd i’w gael ar wahanol stondinau hefyd.

 ??  ?? Joe Wollford yn cwrdd a chefnogwyr – Hannah Kenworthy, Geena Watson a Kimbo MaGuire
Joe Wollford yn cwrdd a chefnogwyr – Hannah Kenworthy, Geena Watson a Kimbo MaGuire

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom