Drysau’n agored i archifau
BYDD cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar gasgliadau arbennig Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 26 Medi.
Mae digwyddiad Drysau Agored, yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.
Bydd yr Archifdy ar agor gan arddangos detholiad o lawysgrifau yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif. Cynhelir sgwrs gan yr Archifydd ar y casgliadau gan gynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb cyn ymweld ag arddangosfa ‘Y Cymry ym Mhatagonia’. Cynhelir y sgyrsiau 10.30-11.30 a 12-1pm.
Dyma gyfle i weld Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, Adeilad Brambell, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am yr anifeiliaid a’r planhigion sydd i’w gweld yno yn ogystal â gofyn ambell i gwestiwn i’r arbenigwyr fydd ar gael. Bydd yr Amgueddfa Hanes Natur ar agor i’r cyhoedd rhwng 11am a 3pm.
Bydd teithiau tywys hefyd yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg y Brifysgol. Mae uchafbwyntiau yn cynnwys celf a serameg yng Nghoridor Siambr y Cyngor a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes. Cynhelir y teithiau tywys o fynedfa Prif Adeilad y Celfyddydau am 12.30-1.30 (Saesneg) a 2.30-3.30 (Cymraeg).
Os oes gennych ddiddordeb mynychu’r sgyrsiau neu fynd ar un o’r teithiau tywys, gofynnir i chi archebu lle ymlaen llaw trwy ffonio 01248 383276 neu e-bostio e.w.simpson@ bangor.au.uk ar gyfer yr Archifdy neu 01248 353368 neu e-bostio amgueddfagwynedd@ gwynedd.gov.uk ar gyfer y teithiau tywys.
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau eraill Drysau Agored ar draws Gwynedd a Chonwy yn ystod mis Medi, ewch icadw.wales.gov.uk/ opendoors