Dynion i drafod cancr
YR wythnos diwethaf, derbyniodd cymeriad caled Rownd a Rownd, Barry, y newyddion fod ganddo gancr y ceilliau ac mae’r actor sy’n ei bortreadu yn annog dynion ifanc i beidio â bod yn swil a thrafod yr afiechyd.
“Cofia checio, stopia ‘neud lol; dydy cancr y ceilliau ddim yn big deal. Mi fedri di ei drin o.” Dyna yw cyngor Gwion Tegid, 24, sy’n wreiddiol o Fangor. Mae’n falch bod Rownd a Rownd yn rhoi sylw i’r salwch nad yw dynion, ar y cyfan, yn hyderus i’w drafod.
“Mae Barry yn 25 oed, ac mae pobl ifanc yn meddwl mai pobl hŷn sy’n dioddef o gancr.
“Ond mae ‘na gymaint o hogiau sy’n dioddef yn dawel,” medd Gwion.
“Ond os wyt ti’n ffeindio lwmp, mae o’n hollol bwysig i ti fynd at y doctor a’i ddal o’n gynnar. Rhaid i bob dyn checio.”
Rownd a Rownd: S4C, bob nos Fawrth a nos Iau, 7.30pm