DYDD GWENER
BECWS S4C, 8.25
CYFRES newydd yng nghwmni Beca Lyne-Pirkis, gyda’r rhaglen gyntaf yn canolbwyntio ar fwyd Asiaidd. Ers ymweld â gwlad Thai gyda’i ffrind gorau Beth, mae Beca wedi gwirioni ar fwyd Asiaidd. Heddiw, yn ogystal â chreu ryseitiau newydd sbon gyda thwist Asiaidd, bydd Beca yn ymweld â’r Thai House yng Nghaerdydd, y bwyty Thai hynaf yng Nghymru.