DYDD IAU
Y RHESTR S4C, 8.25
Huw Stephens sydd yn cyflwyno cwis newydd sbon sydd yn gofyn am feddwl cyflym a bysedd chwim. Bydd tri thîm yn mynd benben â’i gilydd i brofi eu gwybodaeth gyffredinol yn y gobaith o ennill mil o bunnoedd. Mae modd i chi ymuno yn yr hwyl hefyd drwy chwarae gartre’ ar ap y gyfres.